Rhos-y-bol

pentref a chymuned ar Ynys Môn
(Ailgyfeiriad o Rhosybol)

Pentref bychan a chymuned ar Ynys Môn yw Rhos-y-bol[1][2] (neu Rhosybol). Saif yng ngogledd yr ynys ar y B5111, hanner ffordd rhwng Amlwch i'r gogledd a Llannerch-y-medd i'r de.

Rhos-y-bol
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,078 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd3,019.399 ±0.001 ha Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLlanddyfnan, Llaneilian, Mechell, Llannerch-y-medd, Cymuned Amlwch, Tref Alaw, Moelfre Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.368°N 4.368°W, 53.360895°N 4.358259°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000035 Edit this on Wikidata
Cod OSSH4316587483 Edit this on Wikidata
Cod postLL68 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Pentref estynedig sy'n gorwedd o neilldu'r lôn ydyw. Mae'r pentref yn rhan o blwyf eglwysig Amlwch. Tri chwarter milltir i'r gorllewin ceir pen dwyreiniol Llyn Alaw, ond does dim mynediad hawdd iddo o Rosybol. Milltir a hanner i'r gogledd o Rosybol ceir Mynydd Parys sy'n enwog am ei hen gloddfeydd copr.

Rhosybol

Ceir Siop yng nghanol y pentref, sydd yno ers degawdau, ac mae'r ysgol (Ysgol Gymuned Rhosybol) wedi'i lleoli ychydig i'r gogledd o'r canol.

Cofeb Rhyfel Byd Cyntaf Rhosybol

Enw golygu

Yr ystyr gyffredin sydd i'r gair bol yn yr enw, cyfeiriad naill ai at bant yn y tir neu chwydd arno.[3]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Rhosybol (pob oed) (1,078)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Rhosybol) (642)
  
61.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Rhosybol) (664)
  
61.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Rhosybol) (168)
  
37.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Adeiladau a chofadeiladau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/Cymraeg/Comisiynydd/enwaulleoedd/Pages/Manylion.aspx?pnid=13887[dolen marw]
  3. Melville Richards, 'Enwau lleoedd', Atlas Môn (Llangefni, 1972).
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.