Afon Alaw

afon ar Ynys Môn

Un o'r afonydd mwyaf ar Ynys Môn yw Afon Alaw. Fe'i lleolir yng ngogledd yr ynys. Ei hyd yw tua 10 milltir (yn cynnwys ei chwrs trwy Llyn Alaw). Cafodd yr enw "Afon Alaw" am fod yr alaw (lili'r dŵr) yn tyfu yno.[1]

Afon Alaw
Mathafon Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaBedd Branwen Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3029°N 4.5485°W Edit this on Wikidata
TarddiadLlannerch-y-medd Edit this on Wikidata
AberMôr Iwerddon Edit this on Wikidata
LlynnoeddLlyn Alaw Edit this on Wikidata
Map
Erthygl am yr afon yw hon. Am y llong o'r un enw, gweler Afon Alaw (llong).

Llwybr yr afon

golygu

Mae'r afon yn tarddu gerllaw Llanerchymedd yng nghanol yr ynys ac yn llifo i mewn i Lyn Alaw, cronfa a ffurfiwyd trwy adeiladu argae ar draws yr afon. Mae nifer o nentydd eraill hefyd yn llifo i mewn i'r llyn.

Ar ôl gadael y llyn mae'r afon yn llifo heibio Llanbabo a Llanfachreth, ac mae afon arall, a elwir Afon Alaw Fach, yn ymuno â hi. Mae'n cyrraedd y môr ym Mhenrhos, i'r dwyrain o Gaergybi.[2] Mae rhan uchaf ei llif yn llifo ar draws Cors-y-Bol a cafodd ei atal i ffurfio cronfa ddwr Alaw.

Traddodiadau a hanes

golygu

Ceir sôn am Afon Alaw yn Brawnwen ferch Llŷr, ail gainc y Mabinogi, lle'r adroddir yr hanes am Branwen yn marw o dorcalon am fod cymaint o ryfelwyr dewr o Ynys y Cedyrn (Ynys Prydain) ac Iwerddon wedi marw o'i hachos hi, a'i chladdu wedyn mewn bedd ar lan Afon Alaw:

Ac yna y llas y benn ef (Bendigeidfran), ac y kychwynassant a'r pen gantu drwod, y seithwyr hynn, a Branwen yn wythuet. Ac y Aber Alau yn Talebolyon y doethant y'r tir. Ac yna eisted a wnaethant, a gorfowys. Edrych oheni hitheu ar Iwerdon, ac ar Ynys y Kedyrn, a welei ohonunt. "Oy a uab Duw," heb hi, "guae ui o'm ganedigaeth. Da [o] dwy ynys a diffeithwyt o'm achaws i." A dodi ucheneit uawr, a thorri y chalon ar hynny. A gwneuthur bed petrual idi, a'e chladu yno yglan Alaw.[3]

Mae claddfa ar lan yr afon gerllaw Llanbabo yn dwyn yr enw Bedd Branwen - credir ei bod yn dyddio o Oes yr Efydd.

Enwyd y llong hwylio Afon Alaw, chwaer-long yr Afon Cefni, ar ôl yr afon.

Cyfeiriodd y dyddiadurwr o Dronwy, Môn, Robert Bulkeley fel hyn ar 25 Mehefin 1631: Vespi I was at Glaslyn There was tymber newly come from Ireland. Raynie mor[ning].[4] Yn aber yr afon yr oedd “Glaslyn”[5]. Mae’r cyfeiriad yn awgrymu diwydiant allforio coed o egin stadau Ylster yn dilyn polisiau Prydain i “blannu” neu wladychu Iwerddon o Brydain.[6]

Nid yw'r afon hon yn ymddangos ar fap Humphrey Lhuyd ond mae'n cael ei gweld yn glir ar fap Christopher Saxton (1579).

Yn aml mae enw'r afon hon wedi cael ei ysgrifennu yn anghywir fel "Alow".

Cyfeiriadau

golygu
  1. Melville Richards, "Enwau lleoedd", Atlas Môn (Llangefni, 1972).
  2. Jones, Gwilym (1989). The Rivers of Anglesey. Denbigh: Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. tt. 44/45.
  3. Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Gwasg Prifysgol Cymru)
  4. Trans. Anglesey Antiquarian Society, 1937
  5. Bwletin Llên Natur rhifyn 60
  6. MONEA CASTLE and DERRYGONNELLY CHURCH (Ulster-Scots translation) Archifwyd 30 Awst 2011 yn y Peiriant Wayback NI DoE.