Llyn ar Fynydd Hiraethog yn sir Conwy yw Llyn Aled. Saif i'r gogledd o'r briffordd A543 ac i'r gogledd-ddwyrain o bentref Pentrefoelas. Mae'n lyn naturiol, ond adeiladwyd argae i ychwanegu at ei faint; mae ei arwynebedd yn 112.7 acer ac mae 1,227 troedfedd uwchlaw lefel y môr. Gellir cyrraedd ato ar hyd ffordd fechan o'r A543. Ceir pysgota yma am nifer o rywogaethau o bysgod, yn cynnwys Penhwyad. Defnyddir y llyn gan Glwb Hwylio Llyn Aled.

Llyn Aled
Mathllyn, cronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1°N 3.61667°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganDŵr Cymru Edit this on Wikidata
Map

Yma mae tarddle Afon Aled, sy'n llifo tua'r gogledd cyn cyrraedd Cronfa Aled Isaf a wedi ei gadael at hynny.

Mae'r llwybr Taith Clwyd yn heibio ar hyd y lan ogleddol y llyn.

Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.