Cronfa ddŵr ar Fynydd Hiraethog yn sir Conwy yw Cronfa Aled Isaf. Saif i'r gogledd o'r briffordd A543, i'r de-ddwyrain o bentref Gwytherin ac i'r de o bentref Llansannan, 1194 troedfedd uwch lefel y môr.

Cronfa Aled Isaf
Mathcronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.121662°N 3.62595°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganDŵr Cymru Edit this on Wikidata
Map

Ffurfiwyd y gronfa trwy adeiladu argae ar draws Afon Aled. Fel mae'r afon yn gadael y gronfa mae'n disgyn i lawr clogwyni i ffurfio Rhaeadr y Bedd. Mae'n gronfa weddol fawr, gydag arwynebedd o 65.7 acer (26.6ha.). Fel cronfa Llyn Aled gerllaw, adeiladwyd y gronfa yn y 1930au i ddarparu dŵr i Rhyl a Prestatyn, ond nid oedd digon o arian ar gael i orffen y gwaith i gael y dŵr i'r trefi hyn. Fe'i defnyddir yn awr i reoli llif Afon Aled.

Ceir pysgota am nifer o rywogaethau o bysgod, yn cynnwys Penhwyad.