Llyn Cau

llyn, Gwynedd, Cymru

Llyn ar lethrau Cadair Idris yng Ngwynedd yw Llyn Cau. Saif y llyn mewn cwm 1,552 troedfedd uwch lefel y môr, ac wedi ei amgylchynu gan glogwyni ar dair ochr. Yr unig ochr agored yw'r ochr ddwyreiniol, lle mae Nant Cadair yn llifo allan o'r llyn ac i mewn i Afon Fawnog, sydd yn ei thro yn llifo i mewn i Lyn Mwyngil.

Llyn Cau
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.69298°N 3.90285°W Edit this on Wikidata
Map

Roedd traddodiad bod y llyn yn un diwaelod, ac yn ôl traddodiad arall yma y gollyngwyd yr "afanc", anghenfil a lusgwyd o Lyn Barfog gan y Brenin Arthur neu gan Hu Gadarn. Tynnwyd llun y llyn gan yr arlunydd Richard Wilson yn 1765.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)