Trefeglwys

pentref ym Mhowys

Pentref bychan a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Trefeglwys.[1][2] Saif yn ardal Maldwyn ar lan ogleddol afon Trannon, un o ledneintiau afon Hafren, yn y bryniau tua 4 milltir i'r gogledd o Lanidloes, 9 milltir i'r gorllewin o'r Drenewydd, ar y ffordd rhwng Llanidloes a Chaersŵs.

Trefeglwys
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth910 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd8,177.33 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.5°N 3.5°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000348 Edit this on Wikidata
Cod OSSN971902 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Yn yr Oesoedd Canol Diweddar roedd Trefeglwys, yng nghwmwd Arwystli Is Coed, yn enwog am y Grog anghyffredin, sef delw o'r Iesu wedi ei rwymo, yn yr eglwys. Fe'i symudwyd yno rywbryd yn y cyfnod hwnnw o eglwys Y Drenewydd. Ceir o leiaf ddwy gerdd i'r Grog hon yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr, un ohonynt gan Siôn Ceri a'r llall yn gywydd gan fardd anhysbys a dadogir ar Siôn Cent.[3]

Bwthyn bach to gwellt yn Nhrefeglwys tua 1885, gyda theulu'r Ashton

Mae plwyf Trefeglwys yn cynnwys "trefi" Bodaioch, Maestrefgomer, Esgeirieth a Dolgwden.

Heddiw mae sawl cyfleuster yn y pentref, yn cynnwys tafarn, garej, eglwys a chapel, ysgol gynradd, neuadd y pentref a maes chwarae. Fel sawl pentref gwledig arall o'r rhan yma o Bowys, mae Trefeglwys wedi'i Seisnigeiddio cryn dipyn dros y degawdau diwethaf.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[5]


Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Trefeglwys (pob oed) (910)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Trefeglwys) (257)
  
28.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Trefeglwys) (462)
  
50.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Trefeglwys) (122)
  
33.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Pobl enwog o'r cylch golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 30 Rhagfyr 2021
  3. Apocryffa Siôn Cent, gol. M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2004), cerdd 1
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU
  6. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  8. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolen allanol golygu