Llyn Crych y Waun
Llyn yn ne Gwynedd yw Llyn Crych y Waun). Fe'i lleolir tua 4.5 milltir i'r gorllewin o bentref Llanuwchllyn ym Meirionnydd.
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Migneint-Arenig-Dduallt |
Sir | Llanuwchllyn |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 1,352 troedfedd |
Cyfesurynnau | 52.8482°N 3.763°W |
Saif y llyn bychan hwn 1,352 troedfedd[1] i fyny yn ardal gadwriaethol Migneint-Arenig-Dduallt, tua 1.5 milltir i'r gogledd o'r Dduallt. Mae'r tir o gwmpas y llyn yn gorsiog iawn ac mae sawl ffrwd yn ymuno ychydig yn is i lawr i'r llyn i ffurfio Afon Mawddach.[2]
Cofnodir yr enw fel "(Llyn) Krych-ar-y-Waun" mewn rhai hen lyfrau. Ar un adeg roedd y llyn yn llawn o frithyll ond erbyn yr 20g roedd ei faint wedi lleihau ac erbyn heddiw nid yw ond yn llyn bychan iawn yng nghanol cors eang gyda dim ond ychydig o bysgod ynddo.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931).
- ↑ Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.