Llyn Cyri
Llyn ym Meirionnydd, Gwynedd, yw Llyn Cyri. Fe'i lleolir 3.5 milltir i'r gorllewin o gopa Cadair Idris a thua'r un pellter i'r de-ddwyrain o Abermaw.[1] Uchder: 1,148 troedfedd.[2]
Llyn Cyri gyda Llynnau Cregennen ac Afon Mawddach yn y pellter | |
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.686664°N 3.988621°W |
Saif y llyn dan greigiau Craig-y-llyn fymryn i'r gogledd o brif grib Cadair Idris. Mae afon fechan yn llifo o ben gogleddol y llyn ac i lawr i Afon Mawddach ger Arthog.[1]
Mae Llyn Cyri yn llyn bas ond ceir digonedd o frithyll ynddo.[2] Mae ar dir comin o fewn ffin Parc Cenedlaethol Eryri. Gellir ei gyrraedd o'r lôn fynydd sy'n cysylltu Arthog a Dolgellau.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.
- ↑ 2.0 2.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931), tud. 96.