Llyn Du (Llanbedr)
Llyn yn ne Gwynedd yw Llyn Du. Fe'i lleolir yng nghymuned Llanbedr yn ardal Ardudwy Uwch Artro, Meirionnydd.
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanbedr |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 1,800 troedfedd |
Cyfesurynnau | 52.845273°N 3.996695°W |
- Erthygl am y llyn yng nghymuned Llanbedr yw hon. Am lynnoedd eraill o'r un enw gweler Llyn Du (gwahaniaethu).
Saif y llyn bychan hwn 1,800 troedfedd[1] i fyny yng nghanol y Rhinogydd, tua 5 milltir i'r dwyrain o Harlech, dan glogwynni llethrau gogleddol y Rhinog Fawr a rhyw chwarter milltir i'r de o ben Bwlch Tyddiad. Ychydig yn is i lawr i gyfeiriad y gogledd ceir dau lyn arall, sef Llyn Morwynion a Gloywlyn. Does dim ffrwd yn llifo o'r llyn nac iddo (gweler isod).[2]
Ceir brithyll yn y llyn. Yn ôl traddodiad lleol, "cafodd ei ffurfio o wlith a gwlith sy'n ei gynnal byth ers hynny."[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931).
- ↑ Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.