Lleolir Bwlch Tyddiad yn y Rhinogydd yn Ardudwy, Meirionnydd, de Gwynedd. Rhennir cadwyn y Rhinogydd yn ddau gan fwlch Drws Ardudwy, rhwng Rhinog Fawr a Rhinog Fach, a fu'n llwybr pwysig yn yr Oesoedd Canol. Ychydig i'r gogledd o hwn mae Bwlch Tyddiad, rhwng Rhinog Fawr a Chraig Wion.[1]

Bwlch Tyddiad
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Cymru Cymru
Bwlch Tyddiad: dringo'r "Grisiau Rhufeinig".

HanesGolygu

Camarweiniol yw'r enw poblogaidd "Grisiau Rhufeinig" ("Roman Steps") ar y rhan o'r llwybr hwnnw sy'n arwain i'r bwlch hwn. Mewn gwirionedd, mae'r llwybr yn dyddio o'r Oesoedd Canol pan osodwyd cerrig mawr gwastad ar ran o'r llwybr i'r bwlch o gyfeiriad y gorllewin, sy'n dringo o lan Llyn Cwm Bychan. Mae'n debyg mai er mwyn hwyluso llafur merlod pwn y gwnaed hyn.

DaearyddiaethGolygu

Gan ei ddisgrifio o'r gorllewin i'r dwyrain, mae'r llwybr yn cychwyn yng nghyffiniau Harlech ac yn croesi gwaundir i gyrraedd glan Afon Artro ac yna'n dringo i Gwm Bychan. Wedyn mae'n croesi ysgwydd o fryn Carreg-y-saeth ac yn anelu am Fwlch Tyddiad. Yma, ar ddwy ochr y bwlch, ceir y "Grisiau Rhufeinig". Ar ôl croesi'r bwlch mae'r llwybr yn disgyn dros y gwaundir i gyfeiriad Trawsfynydd, gyda llwybr arall yn ei gysylltu gyda llwybr Bwlch Drws Ardudwy.[1]

Gerllaw y bwlch, 1,500 troedfedd i fyny ar lethrau gogleddol y Rhinog Fawr, ceir Llyn Morynion.

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.