Llyn bychan yn Sir Conwy yw Llyn Gloyw. Fe'i lleolir yn ne'r sir tua 3 milltir i'r de-ddwyrain o bentref Cerrigydrudion a thua 5 milltir i'r gogledd-orllewin o Gorwen (Sir Ddinbych).[1] Mae yng nghymuned Llangwm.

Llyn Gloyw
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlangwm Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9998°N 3.496°W Edit this on Wikidata
Map
Llyn Gloyw

Llyn bychan, bas, ar dir corsiog ydyw, 1,477 troedfedd i fyny ar ben bryn Cadair Dinmael. Does dim pysgod ynddo.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Map OS 1:50,000 Landranger 116 Dinbych a Bae Colwyn.
  2. Frank Ward, The Lakes of Wales (Llundain: Herbert Jenkins, 1931), tud. 137.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.