Llangwm, Conwy

pentref a chymuned yng Nghonwy

Pentref bychan a chymuned wledig ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llangwm.[1][2] Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain y sir ar lôn fynydd tri-chwarter milltir o'i chyffordd ar yr A5, tair milltir i'r de o Gerrigydrudion. Mae'r pentref tua 250m uwch lefel y môr, ar gyfartaledd.

Llangwm
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth470, 483 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd4,112.21 ha Edit this on Wikidata
GerllawAfon Ceirw Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.988°N 3.543°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000127 Edit this on Wikidata
Cod OSSH966446 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Llangwm (gwahaniaethu).

Mae Llangwm yn un o gymunedau rhanbarth hanesyddol Uwch Aled. Bu'n rhan o'r hen Sir Ddinbych gynt ac wedyn sir Clwyd. Rhed ffrwd fechan afon Medrad trwy'r pentref i afon Ceirw. I'r gorllewin mae ffordd yn cysylltu Llangwm â phentref bychan Gellioedd. I'r de mae'r tir yn codi i gopa moel Foel Goch (2004 troedfedd). Mae Pigyn Benja (neu Garnedd Benjamin ar fapiau OS) yn 522 metr o uchder ac i'r de-de-ddwyrain o'r pentref.

Ceir hen domen amddiffynnol o'r Oesoedd Canol ger Maesmor, o'r enw Tomen Maesmor, tua milltir i lawr yr A5. Roedd y pentref yn flaenllaw iawn yn Rhyfeloedd y Degwm.

Llangwm
Cofeb i Ferthyron Rhyfel y Degwm, Llangwm
Capel y Groes tua 1875

Eglwys Sant Jerôm

golygu

Enw'r ysgol, a leolir ger yr ysgol yng nghanol y pentref, yw St Jerôm, a alwyd ar ôl sant o'r un enw. Sant Jerôm hefyd yw enw'r eglwys yn Llangwm, Sir Benfro. Cysegrwyd hi’n gyntaf i St Gwynog a Noethan, plant Gildas ap Caw.[3]

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangwm, Conwy (pob oed) (470)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangwm, Conwy) (284)
  
61.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangwm, Conwy) (307)
  
65.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llangwm, Conwy) (58)
  
29%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Pobl o Langwm

golygu
  • Huw Jones ('Huw Jones o Langwm'), a anwyd yn Llangwm ar ddechrau'r 18g.
  • Hugh Evans (1854-1934), cyhoeddwr ac awdur. Mae ei gyfrol enwog Cwm Eithin yn seiliedig ar ei brofiad o fywyd amaethyddol y fro.
  • Gwion Lynch Dramodydd a godwyd yng Ngharrog ond sy'n ffermio yn Llangwm ers dechrau'r 1980au.
  • Emrys Jones, Llangwm Canwr gwerin, bardd gwlad ac awdur,consensious objector adeg yr ail ryfel byd

Addysg

golygu

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Tachwedd 2021
  3. http://www.seintiaucymru.ac.uk/ Adalwyd 3 Hydref 2015
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]