Llyn Huron
Un o'r Llynnoedd Mawr yng Ngogledd America yw Llyn Huron (Saesneg: Lake Huron) neu Lyn Hwron. Mae'n un o lynnoedd mwyaf y byd, efallai y trydydd fwyaf o ran arwynebedd os ystyrir fod Môr Caspia yn fôr yn hyrach na llyn. Gellir ystyried fod Llyn Huron a Llyn Michigan yn un llyn yn hytrach na dau. Mae cysylltiad cul rhwng y ddau lyn yma, felly mae llawer yn eu hystyried yn un llyn.
![]() | |
Math | llyn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Lake Michigan–Huron, Y Llynnoedd Mawr, y ffin rhwng Canada ac UDA ![]() |
Sir | Ontario, Michigan ![]() |
Gwlad | Canada, Unol Daleithiau America ![]() |
Arwynebedd | 59,600 km² ![]() |
Uwch y môr | 176 metr ![]() |
Yn ffinio gyda | Huron County, Alpena County, Alcona County ![]() |
Cyfesurynnau | 44.592584°N 82.756293°W ![]() |
Dalgylch | 193,473 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd | 332 cilometr ![]() |
![]() | |

Enwyd y llyn gan y fforwyr Ffrengig cynnar ar ôl y bobl frodorol, yr Huron. Saif Llyn Huron ar y ffin rhwng Canada a'r Unol Daleithiau. Yn y gorllewin, mae'n ffinio ar Michigan yn yr Unol Daleithiau, yn y dwyrain at Ontario, Canada. Mae ei arwynebedd yn 59,596 km2, ac mae'n cynnwys 3,540 km3 o ddŵr.
Llifa nifer o afonydd i'r llyn, yn arbennig Afon St Mary sy'n llifo o Lyn Superior. Mae Afon St Clair yn llifo allan o'r llyn. Ceir nifer o ynysoedd yn y llyn; y fwyaf yw Ynys Manitoulin, yr ynys fwyaf yn y byd mewn llyn dŵr croyw.
