Llyn Superior
Un o'r Llynnoedd Mawr yng Ngogledd America yw Llyn Superior (Saesneg: Lake Superior, Ojibweg: Gichigami). Mae'n un o lynnoedd mwyaf y byd, efallai y mwyaf o ran arwynebedd os ystyrir fod Môr Caspia yn fôr yn hyrach na llyn, ac os ystyrir fod Llyn Michigan a Llyn Huron yn ddau lyn yn hytrach nag un. Mae cysylltiad cul rhwng y ddau lyn yma, felly mae llawer yn eu hystyried yn un llyn. Mae Llyn Baikal a Llyn Tanganyika yn cynnwys mwy o ddŵr.
Math | glacial lake, rift lake ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Llynnoedd Mawr ![]() |
Sir | Michigan, Ontario, Wisconsin, Minnesota ![]() |
Gwlad | Canada, Unol Daleithiau America ![]() |
Arwynebedd | 82,350 km² ![]() |
Uwch y môr | 183 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 47.528816°N 87.760022°W ![]() |
Llednentydd | Afon Aguasabon, Afon Saint Louis, Afon Eagle, Afon Pigeon, Afon Michipicoten, Afon Pic, Afon Magpie, Afon Kaministiquia, Afon White, Afon Agawa, Afon Au Train, Afon Baldhead, Afon Big Garlic, Afon Black, Afon Black Sturgeon, Afon Blind Sucker, Afon Bois Brule, Afon Brule, Afon Carp, Afon Carp, Afon Cascade, Afon Coldwater, Afon Dead, Afon Falls, Afon Firesteel, Afon Floodwood, Afon Goulais, Afon Hewitson, Afon Hurricane, Afon Little Carp, Afon Little Sucker, Afon Manitou, Afon Miners, Afon Montreal, Afon Mosquito, Afon Nemadji, Afon Onion, Afon Ontonagon, Afon Poplar, Afon Presque Isle, Afon Pukaskwa, Afon Reservation, Afon Sand, Afon Sand, Afon Split Rock, Afon Steel, Afon Tahquamenon, Afon Temperance, Afon Two Hearted, Afon Gooseberry, Afon Huron (northern Michigan), Little Huron River, Afon Cascade, Q15109464, Afon Wolf (Thunder Bay District), Q21426605 ![]() |
Dalgylch | 207,200 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd | 563 cilometr ![]() |
![]() | |
Saif Llyn Superior ar y ffîn rhwng Canada a'r Unol Daleithiau. Yn y gogledd, mae'n ffinio ar Ontario, Canada, a Minnesota, Unol Daleithiau, ac yn y de mae'n ffinio ar Wisconsin a Michigan yn yr Unol Daleithiau. Mae ei arwynebedd yn 82,400 km2, a'i hyd yn 560 km. Llifa dros 200 o afonydd i'r llyn; yn eu plith Afon Nipigon, Afon Sant Louis ac Afon Brule, tra mae Afon St Mary yn llifo allan. Ceir nifer o ynysoedd yn y llyn; y fwyaf yw Isle Royale.