Llyn y Dywarchen, Migneint

llyn yn Migneint, Gwynedd, Cymru

Llyn yng Ngwynedd yw Llyn y Dywarchen (cyfeiriad grid SH761420). Saif ar ochr orllewinol y Migneint, y tir corsiog uchel agored rhwng Ffestiniog ac Ysbyty Ifan, rhwng y ffyrdd B4407 a B4391, i'r dwyrain o Bont yr Afon Gam. Llyn gweddol fychan ydyw, gydag arwynebedd o 7 acer.

Llyn y Dywarchen, Migneint
Mathllyn, cronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.961011°N 3.846031°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganAwdurdod Parc Cenedlaethol Eryri Edit this on Wikidata
Map
Am y llyn o'r un enw gerllaw Rhyd Ddu, gweler Llyn y Dywarchen, Rhyd Ddu.

Llifa nant o'r llyn i ymuno â Nant y Groes, sydd yn ei thro yn ymuno ag Afon Cynfal.