Afon fynyddig ym Meirionnydd, de Gwynedd, Cymru, yw Afon Cynfal. Mae'n dwyn cysylltiad â sawl traddodiad llên gwerin. Mae hi'n rhedeg o gyffiniau'r Migneint i ymuno ag Afon Dwyryd. Ei hyd yw tua wyth milltir.

Afon Cynfal
Afon Cynfal yng Ngheunant Cynfal
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.954309°N 3.886246°W Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Dwyryd Edit this on Wikidata
Map

Cwrs golygu

Mae Afon Cynfal yn tarddu ar y Migneint, y tir corsiog uchel agored rhwng Ffestiniog ac Ysbyty Ifan. Mae'n cychwyn ei thaith fel Nant y Pistyll-gwyn, hanner milltir i'r de o Lyn Conwy yng nghysgod Graig-goch (588m). Ar ôl llifo am filltir heibio i'r Garnedd a Charreg y Foel-gron mae hi'n mynd dan bont fach ar y B4407. Daw ffrwd fach Afon Gam i mewn iddi o'i tharddle ar y Migneint. O fewn chwarter milltir mae afon fach arall, Nant y Groes, yn ymuno â hi ger Pont yr Afon Gam; tarddle'r afonig honno yw corsdir ar y Migneint ger Llyn y Dywarchen.[1]

Fymryn is i lawr o'r bont mae'r afon yn llifo trwy Geunant Cynfal, ceunant ddwfn lle ceir Rhaeadr-y-cwm; llecyn deniadol yw hyn a chyrchfa poblogaidd. Llifa'r afon yn ei blaen rhwng bryniau coediog i lawr i Bont Newydd lle mae priffordd yr A470 yn ei chroesi. Filltir yn is i lawr mae Rhaeadr Cynfal. Yno y ceir Pwlpud Huw Llwyd a gysylltir â'r bardd-ddewin enwog hwnnw. Dywedir ei fod yn mynd yno liw nos i fyfyrio ac i gonsurio ysbrydion. Mae'r Pwlpud tafliad carreg o hen blasdy Cynfal-fawr lle ganwyd Huw Llwyd a'i berthynas Morgan Llwyd o Wynedd, y cyfrinydd a llenor. Llifa'r afon yn ei blaen i ddisgyn yn syrth trwy'r Gellidywyll goediog ac aberu yn Afon Dwyryd ger Pont Tal-y-bont, sy'n cludo'r A496 i Flaenau Ffestiniog.[1]

Llech Gronw golygu

 
'Llech Gronw' ar lan afon Cynfal.

Llecyn arbennig ar lan Afon Cynfal yw Llech Gronw neu Llech Ronwy. Hen faen hir â thwll yn ei ganol ydy o, sy'n gorwedd ar ei wastad bellach ar lan yr afon ger Llety Nest yn ymyl y Bont Newydd. Yn ôl traddodiad dyma'r maen a roddodd Gronw Pebr (neu Gronwy Pefr), un o arwyr y Mabinogi, rhyngddo a gwaywffon Lleu Llaw Gyffes. Roedd yn gariad i Flodeuwedd a mynnodd Lleu Llaw Gyffes ddial arno am gysgu â'i arglwyddes a dwyn ei arglwyddiaeth oddi arno. Taflodd waywffon ato ac mi aeth drwy'r garreg a Gronw hefyd, gan ei adael yn gelain. Ceir yr hanes yn y Bedwaredd Gainc (Math fab Mathonwy). Ar ddiwedd yr adran honno o'r chwedl mae'n dweud:

Ac yna y llas (lladdwyd) Gronwy Bebyr, ac yno y mae y llech ar lan Auon Gynuael yn Ardudwy, a'r twll drwydi. Ac o achaws hynny ettwa y gelwir Llech Gronwy.

Hefyd yn yr ardal mae Bryn Cyfergyr (Bryn Cyfergyd heddiw), y cyfeirir ato yn y Bedwaredd Gainc.

Darllen pellach golygu

Ceir rhagor am Lech Gronwy a'r chwedl yn nodiadau golygiad Ifor Williams o'r Pedair Cainc (Caerdydd, 1930 ac argraffiadau diweddarach).

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.