Llyn yr Adar
llyn yng Ngwynedd, Cymru
Llyn yng Ngwynedd yw Llyn yr Adar. Saif ychydig i'r gogledd o gopa Cnicht, i'r gorllewin o Ysgafell Wen ac i'r dwyrain o Lyn Dinas a phentref Nantmor. Mae arwynebedd y llyn yn 10 acer. Dywedir iddo gael ei enw am fod gwylanod yn arfer nythu ar yr ynys fechan yn y llyn.
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.01237°N 4.005581°W |
Mae'r nant o'r llyn yn llifo i lawr i Lyn Llagi, ac yn y diwedd yn ymuno ag Afon Glaslyn.
Llyfryddiaeth
golygu- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)