Llyn Llagi

llyn, Gwynedd, Cymru

Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Llagi. Saif ychydig i'r gogledd o gopa Cnicht i'r dwyrain o Lyn Dinas ac i'r gogledd-ddwyrain o bentref Nantmor. Mae arwynebedd y llyn yn 8 acer.

Llyn Llagi
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.014364°N 4.015245°W Edit this on Wikidata
Map
Llyn Llagi

Mae nant i llifo i lawr o Lyn yr Adar i Lyn Llagi dros y clogwyni a elwir yn Craig Llyn Llagi. Llifa nant Nantmor o'r llyn i ymuno ag Afon Glaslyn. Dywedir fod pysgota brithyll da yn y llyn, ac awgrymwyd y gallai olion sefydliad cynhanesyddol ar ei lan fod yn weddillion crannog, er nad oes prawf o hyn. Dim ond un crannog y gwyddir i sicrwydd amdani yng Nghymru, sef yr un yn Llyn Syfaddan ym Mhowys.

Mae'r creigiau uwchben y llyn yn gynefin i friwydd y Gogledd (Galium boreale).

Llyfryddiaeth

golygu
  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)