Ysgafell Wen
mynydd (672m) ym Mwrdeistref Sirol Conwy
Copa yn y Moelwynion yn Eryri yw Ysgafell Wen. Saif ar y grib sy'n ymestyn o'r ardal i'r de o Moel Siabod tua'r de, dros gopaon Yr Arddu, Ysgafell Wen a Moel Druman, gan orffen gydag Allt Fawr uwchben Blaenau Ffestiniog.
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dolwyddelan, Llanfrothen |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 672 metr |
Cyfesurynnau | 53.0136°N 3.9884°W |
Cod OS | SH6669948126 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 57 metr |
Rhiant gopa | Allt Fawr |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Gellir ei ddringo o'r gorllewin trwy ddilyn y llwybr sy'n cychwyn gerllaw Nantmor, ac yn mynd heibio Llyn Llagi a Llyn yr Adar cyn cyrraedd y copa.