Llynnau Gamallt

llyn yng Ngwynedd

Dau lyn cysylltiedig yng Ngwynedd yw Llynnau Gamallt. Fe'i lleolir yng nghymuned Ffestiniog tua 3 milltir i'r gorllewin o bentref Ffestiniog ei hun.

Llynnau Gamallt
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr1,530 troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.980829°N 3.865451°W Edit this on Wikidata
Map

Saif y llynnoedd hyn yng nghysgod bryn Graig-goch, 1,530 troedfedd i fyny.[1] Llifa Afon Gamallt o ben deheuol y prif lyn i lifo i Afon Teigl sy'n un o lednentydd Afon Dwyryd.[2]

Llynnau Gamallt

Mae rhan o'r llynnoedd a'r tir i'r gorllewin ohonynt yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ceir brithyll yn y llynnoedd.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931).
  2. Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.