Llys-y-frân
Pentref a phlwyf bach yng nghymuned y Mot, Sir Benfro, Cymru, yw Llys-y-Frân. Saif ar lethrau deheuol Mynyddoedd y Preseli. Mae'r plwyf yn cynnwys anheddiad bach o'r enw Gwastad. Nodwedd nodedig Llys-y-Frân yw Cronfa Ddŵr a Pharc Gwledig Llys y Fran, atyniad poblogaidd i dwristiaid.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Y Mot |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.9°N 4.8°W |
Cod OS | SN0424 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Stephen Crabb (Ceidwadwr) |
Enw
golyguMae'r enw'n cynnwys y geiriau llys a brân. Mae'n ymddangos fel Llys-y-Frân ar fapiau'r Arolwg Ordnans a hefyd mewn deddfwriaeth,[1] a gwelir nifer o sillafiadau wedi'u cofnodi gan gynnwys Llysyfran, Llys-y-fran, Llys-y-Frân a Llys- y-Vrân.[2]
Hanes
golyguMae eglwys bresennol y plwyf yn dyddio o'r 12fed ganrif, a gwelir newidiadau a gwelliannau yn dyddio o'r canrifoedd dilynol. Mae wedi'i chysegru i St Meilyr, sant Celtaidd o'r 6ed ganrif. Roedd Llys y Frân yn wreiddiol yn gapeliaeth; yn yr 16eg ganrif fe'i rheolwyd gan amrywiol dirfeddianwyr yn yr ardal, ond mae'n ymddangos (Llisvrayne) fel plwyf ar fap 1578.[3] Mae gan yr eglwys ddwy gloch ac mae'r dyddiad 1632 ar un ohonynt. Daeth yn eglwys y plwyf erbyn 1833. [4] Mae'n adeilad rhestredig Gradd II.
Roedd y plwyf[5] yng Nghantref hynafol Daugleddau yn Esgobaeth Tŷ Ddewi. Ym 1833, 202 oedd y boblogaeth, ac roedd mwyafrif y plwyf yn dir amaethyddol a phorfa.[2] Mae plwyf Llys y Fran yn cynnwys pentrefan Gwastad, lle bu capel Methodistaidd Calfinaidd er 1836.[2]
Efallai y safai castell pren i'r gogledd o'r eglwys, ond mae'n bosibl fod y gweddillion wedi'u dinistrio pan adeiladwyd argae'r gronfa ddŵr. Enw'r safle yw'r Castell (y Castell). [6]
Yn 1887 tyfodd maint y plwyf i 1,466 acr (593 ha) ac roedd ganddo boblogaeth o 194.[7]
Ganwyd yr athro a'r cyfansoddwr William Penfro Rowlands (1860-1937) yn Llys-y-Frân. [8]
Nid oes cofeb ryfel ar y cyd i unigolion yr ardal.[9]
Adeiladwyd argae Llys-y-Frân rhwng 1968 a 1972 gan Syr Lindsay Parkinson a'i gwmni Cyf. Mae'r gronfa ddŵr yn gorchuddio 212 acr (86 ha) ac fe'i hamgylchynir gan Barc Gwledig glaswelltir a choetir o 350 acr (140 ha). Mae hyn yn cynnwys ardal y gronfa ddŵr. Fe'i rheolir gan Dŵr Cymru ac mae'n un o 81 cronfa ddŵr yng Nghymru.[10][11] Mae'r argae yn 100 troedfedd (30 m) o uchder ac mae'r llyn yn cael ei fwydo gan Afon Syfynwy (neu Syfni) sydd hefyd yn bwydo Cronfa Ddŵr Rosebush ychydig filltiroedd i fyny'r afon i'r gogledd-ddwyrain.[12]
Yn 2008, ail-luniwyd a chwblhawyd cynllun trydan dŵr, gan godi'r allbwn pŵer i 26 kW ar gyfartaledd ; roedd y tyrbin gwreiddiol yn cynhyrchu gryn dipyn yn llai.[13] Yn 2017 cyhoeddodd Dŵr Cymru fuddsoddiad o £ 4 miliwn i wella cyfleusterau’r parc, ac roedd y gwaith i’w gwblhau yn 2019,[14] [15] ond yn 2019 gohiriwyd y prosiect pan aeth y cwmni adeiladu i ddwylo’r gweinyddwyr.[16] Penodwyd cwmni adeiladu newydd, a bwriadwyd i'r gwaith gael ei gwblhau yn 2020, a than hynny roedd y parc a'r gronfa ddŵr yn parhau ar gau.[17] Agorwyd y prosiect ailddatblygu a'r ganolfan weithgareddau awyr agored ym 2021.[18]
Mwynderau Cronfa Ddŵr a Pharc Gwledig
golyguMae'r llwybr sydd yn amgylchynu'r parc yn 6.5 milltir (10.5 km) o hyd ac yn addas i gerddwyr a beicwyr.[10] [11] Mae yna hefyd llwybr 1.5 milltir (2.4 km) sydd yn addas i deuluoedd, ac mae beiciau ar gael i'w llogi.[19]
Mae'r gronfa yn bysgodfa bwysig yn Ne Orllewin Cymru, ac mae wedi cynnal cystadlaethau pysgota cenedlaethol a rhyngwladol. Mae pysgota gyda phlu neu abwyd, o'r marc neu'r cwch, yn bosibl. Mae'r llyn yn llawn o frithyll brown a seithliw.[20]
Mae hwylio, hwylfyrddio, rhwyfo a chanŵio i gyd yn digwydd ar y gronfa ddŵr, gyda nifer o offer ar gael i'w llogi.[21] Cynhaliodd y parc Bencampwriaethau Cychod y Ddraig Gymreig yn 2014, 2015,[22] 2016[23] a 2017.[24]
Mae Llys-y-Frân Hillclimb yn ddigwyddiad blynyddol sy'n cael ei redeg gan Glwb Moduron Abertawe.[25]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "The Preseli (Communities) Order 1987". legislation.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Hydref 2021.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "GENUKI: Llysyfran". Cyrchwyd 1 Mai 2015.
- ↑ "Penbrok comitat". British Library. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-10-23. Cyrchwyd 9 Awst 2019.
- ↑ "St Meilyr's Church - History". Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2014.[dolen farw]
- ↑ "GENUKI: Parish map (51)". Cyrchwyd 1 Mai 2015.
- ↑ "Gatehouse: Y Castell, Llys y Fran" (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Hydref 2019.
- ↑ "A Vision of Britain through time" (yn Saesneg). Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2014.
- ↑ "Public Monument and Sculpture Association National Recording Project" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-05.
- ↑ "West Wales War Memorial Project: Llys y Fran". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-07. Cyrchwyd 15 Hydref 2019.
- ↑ 10.0 10.1 "Llys y Fran Reservoir and Country Park". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-14. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2014.
- ↑ 11.0 11.1 "Countryside Council for Wales - Llys-y-Fran Reservoir". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2014.
- ↑ "Walking Pembrokeshire - Llys y Fran" (yn Saesneg). Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2014.[dolen farw]
- ↑ "Llys y Fran Hydro Scheme Refurbishment". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2014.
- ↑ "Go ahead for £4m Llys y Fran 'great water park' plans". BBC News. 8 Tachwedd 2017. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2017.
- ↑ Jason Cooper (28 Rhagfyr 2017). "Rotary club delighted by Llys y Fran investment". The Pembrokeshire Herald (yn Saesneg). Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2017.
- ↑ Ruth Davies (7 Mehefin 2019). "Llys-y-Fran £4m project on hold after Welsh Water contractors in administration". Western Telegraph (yn Saesneg). Cyrchwyd 10 Mehefin 2019.
- ↑ "New contractors start work on Llys-y-Fran redevelopment". Tivyside Advertiser (yn Saesneg). 11 Hydref 2019. Cyrchwyd 12 Hydref 2019.
- ↑ "Paul Davies MS: Local MS Visits Llys-y-Frân Reservoir" (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2021.
- ↑ "Cycle Pembrokeshire - Llys y Fran" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-11. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2014.
- ↑ "Pembrokeshire Coast National Park - Llys y Fran" (yn Saesneg). Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2014.
- ↑ "Reservoir Guide" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 14 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2014.
- ↑ "Llys y Fran welcomes the return of the dragon". Western Telegraph. 25 Mai 2015. Cyrchwyd 1 Mawrth 2016.
- ↑ "Country Park welcomes Welsh Dragonboat Championships". BBC News. 29 Mai 2016. Cyrchwyd 29 Mai 2016.
- ↑ "Hear the dragons roar at rowing championship tomorrow". Milford Mercury. 27 Mai 2017. Cyrchwyd 27 Mai 2017.
- ↑ "Llys-Y-Fran Hillclimb Guide". Cyrchwyd 26 Chwefror 2016.