Llywodraethiaeth Hebron
Mae Llywodraethiaeth Hebron (Arabeg: محافظة الخليل Muḥāfaẓat al-Ḫalīl; Hebraeg: נפת חברון Nafat Ħevron) yn ardal weinyddol ym Awdurdod Palesteina yn y Lan Orllewinol ddeheuol. Mae'n un o 16 Llywodraethiaethau Palesteina.
Enghraifft o'r canlynol | llywodraethiaethau Palesteina |
---|---|
Label brodorol | محافظة الخليل |
Poblogaeth | 711,223 |
Gwlad | Palesteina |
Enw brodorol | محافظة الخليل |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
Rhanbarth | y Lan Orllewinol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Arwynebedd tir y llywodraethiaeth yw 1,060 cilomedr sgwâr (410 metr sgwâr) a'i phoblogaeth yn ôl Swyddfa Ystadegau Ganolog Palestina yng nghanol blwyddyn 2019 oedd 1,004,510. Mae hyn yn golygu mai Llywodraethiaeth Hebron yw'r fwyaf o 16 llywodraethiaeth o ran boblogaeth ac arwynebedd tir yn nhiriogaethau Palestina.[1] Dinas Hebron yw prifddinas ardal neu muhfaza (sedd) y llywodraethiaeth.
Yn ystod chwe mis cyntaf yr Intifada Cyntaf Palesteina lladdwyd 42 o bobl yn Llywodraethiaeth Hebron gan fyddin Israel.[2]
Demograffeg
golyguMae'r boblogaeth yn ifanc iawn ar gyfartaledd ac mae tua 41.4% yn iau na 15 oed, a dim ond 2.6% sydd dros 65 oed. Yn 2017, roedd 100% o'r boblogaeth yn Fwslim. Ni chynhwyswyd preswylwyr aneddiadau Iddewig. Roedd 53.9% o gyfanswm y boblogaeth yn ffoaduriaid neu'n bobl wedi'u dadleoli yn yr un flwyddyn.
Cyfrifiad | Trigolion[3] |
---|---|
1997 | 405.664 |
2007 | 552.164 |
2017 | 711.223 |
Is-raniadau Llywodraethol
golyguMae gan Lywodraethiaeth Hebron gyfanswm o saith dinas a deunaw tref. Mae'r llywodraethiaeth hefyd yn cynnwys mwy na 100 o bentrefi ac aneddiadau Bedouin nad ydynt wedi'u rhestru isod.
Dinasoedd
golygu- Dura
- Halhul
- Hebron (prifddinas)
- Yatta
- ad-Dhahiriya
Mae gan y ardaloedd canlynol statws bwrdeistref gan Weinyddiaeth Gweinyddiaeth Leol Awdurdod Cenedlaethol Palestina.
|
|
Treflannau Ffoaduriaid
golygu- al-Arroub
- al-Fawwar
Oriel
golygu-
Dinas Hebron City, 2006
-
Hen ddinas Hebron, 2017
-
Gwawr dros tref Halhull
-
Criw o hen ddynion yn Yatta, 2012
-
Ad-Dhahiriya o Goedwig Yatir (sydd ochr arall y ffin yn Israel), 2015
-
Gwrthdaro rhwng lluoedd Isarael a Phalesteiniaid Treflan Ffoaduriaid al-Arroub ar 'Ddiwrnod Nakba', 2011
-
Beit Ummar - Milwyr Israel tu mewn i Ardal B (ardal gwienyddiaeth sifil Balesteinaidd, ond rheolaeth diogelwch ar y cyd gydag Irael), yn Beit Ummar, Ebrill 2011. Newidiwyd y llythyren B i A (ardal rheolaeth gweinyddol a diogelwch Palesteinaidd) Fel y gwelir gan y lliw gwahanol sydd ganddo.
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Main Indicators by Type of Locality - Population, Housing and Establishments Census 2017" (PDF). Palestinian Central Bureau of Statistics (PCBS). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-01-28. Cyrchwyd 2021-01-19.
- ↑ B'Tselem information sheet July 1989. p.4. pdf
- ↑ Nodyn:Internetquelle