Prif dref Swydd Wexford yn ne-ddwyrain Gweriniaeth Iwerddon yw Loch Garman[1] (Saesneg: Wexford). Saif heb fod ymhell o borthladd Rosslare, ar ochr ddeheuol aber Afon Slaney. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 18,163.

Loch Garman
Mathanheddiad dynol, tref Edit this on Wikidata
Poblogaeth20,188 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Koeron, Annapolis, Maryland, Lugo, Fleurus Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirEast Edit this on Wikidata
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Uwch y môr1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.3342°N 6.4575°W Edit this on Wikidata
Map

Sefydlwyd y dref gan y Llychlynwyr tua OC 800; daw'r enw Saesneg o'r Hen Norseg Veisafjǫrðr neu Waes Fiord. Ffôdd Gruffudd ap Cynan yma am loches ar ôl colli Brwydr Bron yr Erw. Yn 1169, cipiwyd y dref gan Dermot MacMurrough a'i gyngheiriad Normanaidd Robert Fitz-Stephen, mab Nest ferch Rhys ap Tewdwr. Yn y Canol Oesoedd, roedd yn sefydliad Seisnig, ac roedd hen ffurf o Saesneg a adwaenid fel "Yola" yn cael ei siarad yno hyd y 19g.

Cipiwyd y dref gan fyddin Oliver Cromwell yn 1649; llosgwyd rhan helaeth o'r dref a lladdwyd llawer o'r trigolion. Yn ystod Gwrthryfel Gwyddelig 1798, cipiwyd y dref gan y gwrthryfelwyr.

Brodorion o Loch Garman oedd teulu Redmond, fu a rhan bwysig yng ngwleidyddiaeth Iwerddon yn y 19g a dechrau'r 20g. Y mwyaf adnabyddus ohonynt yw John Redmond, a ddaeth yn arweimydd Y Blaid Seneddol Wyddelig. Cynhelir Gŵyl Opera yno bob hydref.

Adfeilion Abaty Selskar

Cyfeiriadau golygu

  1. "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022