Brwydr Bron yr Erw
Ymladdwyd Brwydr Bron yr Erw, ar safle ger Clynnog Fawr yn Arfon, penrhyn Llŷn, yn 1075 rhwng byddin Gruffudd ap Cynan a lluoedd Trahaearn ap Caradog. Fe'i cofnodir ym Mrut y Tywysogion a Hanes Gruffudd ap Cynan.[1]
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 1075 |
Cysylltir gyda | Gruffudd ap Cynan, Trahaearn ap Caradog |
Lleoliad | Arfon |
Gwladwriaeth | Cymru |
Hanes
golyguAr farwolaeth Bleddyn ap Cynfyn, brenin teyrnas Powys, yn gynharach yn y flwyddyn, meddianwyd ei deyrnas gan Trahaearn, arglwydd Arwystli a Cynwrig ap Rhiwallon o Faelor. Ceisiodd Trahaearn a Chynwrig sefydlu eu hawdurdod yn Llŷn gyda'r bwriad o reoli teyrnas Gwynedd yn y pen draw.[1]
Daeth Gruffudd ap Cynan drosodd o Ddulyn gyda mintai o filwyr hur o Lychlynwyr. Glaniodd yn Abermenai a chafodd fuddugoliaethau ysgubol yn erbyn Trahaearn a Chynwrig (a laddwyd) ac yn erbyn y Normaniaid dan Robert o Ruddlan hefyd. Ond lladdwyd y Llychlynwyr a adawsai yn Llŷn a dychwelodd Gruffudd yno o Ruddlan gyda byddin gymharol fechan.[1]
Arweiniodd Trahaearn ei gefnogwyr yn Llŷn a'i fyddin o wŷr Powys, yn cynnwys ei gynghreiriad Gwrgenau ap Seisyllt, yn erbyn Gruffudd. Trechodd y cynghreiriaid fyddin Gruffudd ap Cynan ym Mron yr Erw gyda cholledion trwm.[1]
Ar ôl y frwydr ffoes Gruffudd yn ôl i Iwerddon lle cafodd ymgeledd yn Loch Garman (Saesneg: Wexford).[1]