Locomotif Dosbarth 'Manor' GWR
Mae Dosbarth 'Manor' GWR (neu Ddosbarth 7800) yn fath o locomotif 4-6-0 a grewyd ar gyfer Rheilffordd y Great Western. Roedd y locomotifau'n ysgafnach, ac wedi'u cynllunio gan Charles Collett[1] gan ddatblygu Dosbarth GWR ‘Grange’, a oedd a boeler ysgafnach, i gael argaeledd ehangach dros rwydwaith y rheilffordd[2]. Adeiladwyd 20 ohonynt rhwng 1938 a 1939, ac fe'u henwyd ar ôl maenordai yn ardaloedd lein y Great Western. Adeiladwyd 10 arall ym 1950 gan BR.[3] Ar ran pŵer, dosbarth 5MT oedd y ‘Manor’,dosbarth D yn nhermae’r GWR.[4] Aeth y locomotifau cyntaf i Wolverhampton, Bryste, Caerloyw, Amwythig, Westbury a Neyland. Ar ôl 1938, defnyddiwyd locomotifau ar brif lein Rheilffordd y Cambrian. Dyfnyddiwyd y dosbarth hefyd yn Nyfnaint a Chernyw.[5]
Math o gyfrwng | dosbarth o locomotifau |
---|---|
Math | locomotif stêm â thendar |
Daeth i ben | Rhagfyr 1965 |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Lled y cledrau | 1435 mm |
Gweithredwr | Rheilffordd y Great Western, Western Region of British Railways |
Gwneuthurwr | Swindon Works |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cadwraeth
golyguMae 9 ohonynt mewn cadwraeth.
Locomotif | Dosbarth | Lleoliad | Statws | Delwedd | Nodau |
---|---|---|---|---|---|
7802 Bradley Manor | Dosbarth 7800 GWR "Manor" | Rheilffordd Dyffryn Hafren | Gweithredol | ||
7808 Cookham Manor | Dosbarth 7800 GWR "Manor" | Canolfan reilffordd Didcot | Disgwyl am atgyweiriad | ||
7812 Erlestoke Manor | Dosbarth 7800 GWR "Manor" | Rheilffordd Dyffryn Hafren | Gweithredol | ||
7819 Hinton Manor | Dosbarth 7800 GWR "Manor" | Rheilffordd Dyffryn Hafren | Atgyweiriwyd | ||
7820 Dinmore Manor | Dosbarth 7800 GWR "Manor" | Rheilffordd Swydd Gaerloyw a Swydd Warwick | Gweithredol | Defnyddio tender o locomotif 3850 | |
7821 Ditcheat Manor | Dosbarth 7800 GWR "Manor" | Marchnad cynllunwyr Swindon | Atgyweiriwyd | Ar fenthyg o Reilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf | |
7822 Foxcote Manor | Dosbarth 7800 GWR "Manor" | Rheilffordd Llangollen | Gweithredol | ||
7827 Lydham Manor | Dosbarth 7800 GWR "Manor" | Rheilffordd Stêm Dartmouth | Gweithredol | ||
7828 Odney Manor | Dosbarth 7800 GWR "Manor" | Reilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf | Gweithredol | Wedi cael yr enw Norton Manor yn ystod gwarchodaeth. |