Brenin chwedlonol ar Ynys Brydain yn ôl y ffug hanes Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy oedd Locrinus.

Yn ôl Sieffre cafodd Brutus, sylfaenydd chwedlonol Prydain, dri mab, sef Locrinus, Albanactus a Camber. Locrinus oedd yr hynaf. Etifedodd y traean o'r deyrnas a alwyd yn Loegria (Lloegr) ar ei ôl.

Dialodd lofruddiaeth ei frawd Albanactus gan Humber, brenin yr Huniaid chyda chymorth ei frawd arall, Camber. Boddwyd Humber, ar ôl colli'r frwydr, mewn afon yng ngogledd Lloegr a alwyd yn Humber wedyn. Priododd Estrildis, merch Germanaidd, a oedd wedi ei dal gan yr Huniaid. Ond cythruddodd hynny Corineus, hen gynghreiriad Brutus, a oedd wedi trefnu i Locrinus briodi ei ferch ei hun, Gwenddoleu (Gwendolen Sieffre). Bu rhaid i Locrinus ildio a chysgodd gyda Gwenddoleu ond cuddiodd Estrildis mewn ogof dan ddinas Trinovantum (Troia Newydd=Llundain) am saith mlynedd.

Cafodd Locrinus ferch, Hafren (yr enwir afon Hafren ar ei hôl), gan Estrildis, a bachgen, Maddan, gan Gwenddoleu. Yn fuan ar ôl geni Maddan anfonodd Locrinus ef i gael ei fagu gan Corineus, ei daid. Ar farwolaeth Corineus, gadawodd Locrinus Wenddoleu a chymerodd Estrildis yn frenhines. Aeth Gwenddoleu i Gernyw a chodi byddin. Bu brwydr fawr ger afon Stour a lladdwyd Locrinus. Rheolodd Gwenddoleu ar ei ôl.

Fel yn achos y rhan fwyaf o ddeunydd Sieffre, nid oes sail hanesyddol o gwbl i'r hanes am Locrinus ac mae'n amlwg fod ei enw yn deillio o'r ffurf Ladin ar yr enw Cymraeg Lloegr, sef Loegria. Ymddengys fod cymeriad Gwenddoleu/Gwenddolau yn deillio o draddodiadau am yr arwr Gwenddolau.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Henry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)