Twmpa

mynydd (690m) ym Mhowys
(Ailgyfeiriad o Lord Hereford's Knob)

Mynydd yn ne-ddwyrain Cymru, ydy Twmpa (Saesneg: Lord Hereford's Knob), uchder 689m (2231 troedfedd); cyfeiriad grid SO224350. Mae'n un o'r copaon mwyaf gogleddol yn y Mynyddoedd Duon, Powys. Fe'i leolir 3 km i'r gorllewin o'r ffin â Lloegr, a 7 km i'r de o'r Gelli, yn rhanbarth dwyreinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Twmpa
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr690 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.0081°N 3.13°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO2248235062 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd79 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaWaun Fach Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddMynydd Du Edit this on Wikidata
Map

I'r dwyrain o'r Twmpa croesir y mynyddoedd gan lôn sy'n dringo Bwlch yr Efengyl. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 611metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 690 metr (2264 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.

Gweler hefyd golygu

Dolennau allanol golygu

Cyfeiriadau golygu