Lorna Prichard

actores

Mae Lorna Prichard (ganed 1987) yn gyn-newyddiadurwraig sydd nawr yn gweithio'n llawrydd fel comediwraig, actores, trefnydd, newyddiaduwraig a pherson cysylltiadau cyhoeddus.[1]

Lorna Prichard
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdigrifwr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Magwyd hi yn Abergele [2] ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol Emrys ap Iwan ac yna yng Ngholeg Llandrillo, cyn graddio mewn Saesneg Iaith a Llên (BA) o Brifysgol Rhydychen. Mae wedi gweithio fel newyddiadurwraig i'r BBC, Trinity Mirror Group PLC ac ITV.[1]

Mae Lorna yn byw yng Nghaerdydd ond yn wreiddiol o'r Gogledd. Daeth yn ddigrifwr wedi dau ddigwyddiad sylweddol a newidiodd ei bywyd. Y cyntaf oedd iddi ddisgyn lawr clogwyn 12 troedfedd yn y Peak District yn Swydd Derby, Lloegr ym mis Hydref 2012. Malwyd ei ffêr a bu mewn ysbyty am wythnosau.[3] Cafodd ddwy lawdriniaeth fawr o fewn 10 niwrnod. Ni wellodd y ffêr fyth yn llawn, yn rhannol oherwydd iddi ddarganfod yn 2013 fod ganddi osteoarthritis.

Yn Ionawr 2017, sylweddolodd ei bod yn cael chwalfa nerfau ac yn dioddef o iselder a gor-bryder. Doedd hi ddim yn gallu man-siarad gyda chyfeillion a chydweithwyr. Credai fod pwysau gwaith, tor-perthynas a thrafferthion gyda'r ffêr wedi'r gwymp i gyd wedi bod yn ffactor yn y 'breakdown'. Fel rhan o'r therapi, ymunodd â chwrs comedi chwech wythnos ym Mryste.[4] Dywed fod bod yn newyddiaduwraig yn golygu celu teimladau er ei bod yn dod i gysylltiad trwy ei gwaith gyda phobl eraill oedd yn mynd drwy gyfnodau a digwyddiadau anodd iawn. Mae'n crediniol fod y broses o fod ar lwyfan a bod yn hollol agored a "noeth" am eich teimladau wrth berfformio comedi wedi bod yn gymorth iddi wella'n feddyliol.

Gyrfa Comedi a Pherfformio

golygu

Yn 2018 dechreuodd redeg nosweithiau comedi 'Howl' unwaith y mis yng nghanolfan Tramshed yng Nghaerdydd. Cynhelir gwahanol sesiynau comedi gan Howl gan gynnwys, yn 2018, ddathliad o Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod[5] a rhediad llawn yng Nghaeredin.

Mae wedi perfformio mewn amryw o leoliadau, gan gynnwys Gŵyl Caeredin[6] a Gŵyl Gomedi Aberystwyth yn 2018.

Mae'n aelod o Gwmni Theatr Everyman. Mae wedi perfformio yn y ddrama gomedi ddu, Season’s Greetings a'r ddrama drasiedi Roegaidd, Medea.[7]

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 https://uk.linkedin.com/in/lorna-prichard-b9930525
  2. https://www.youtube.com/watch?v=rJh9WANiFhs
  3. https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/left-needing-six-operations-after-11330724
  4. https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/turning-stand-up-comedy-proved-14422639
  5. http://getthechance.wales/2018/03/18/review-comedy-howl-international-womens-day-special-hannah-lad/
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-13. Cyrchwyd 2018-11-26.
  7. Everyman Theatre last summer and performed in black comedy Season’s Greetings and Greek tragedy Medea.