Louis Rees-Zammit

Chwaraewr pêl-droed Americanaidd o Gymro yw Louis Rees-Zammit (ganwyd 2 Chwefror 2001) sy'n chwarae'n broffesiynol i'r Kansas City Chiefs yn y National Football League (NFL).[1] Mae hefyd yn gyn-chwaraewr rygbi'r undeb a fu'n chwarae i Gaerloyw yn Uwch Gynghrair Lloegr[2][3] ac i Gymru ar y lefel genedlaethol.

Louis Rees-Zammit
Ganwyd2 Chwefror 2001 Edit this on Wikidata
Penarth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb, chwaraewr pêl-droed Americanaidd Edit this on Wikidata
Taldra191 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau88 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auGloucester Rugby, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Kansas City Chiefs Edit this on Wikidata
SafleAsgellwr, running back, wide receiver Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganed Rees-Zammit ym Mhenarth, Bro Morgannwg.[4] Mynychodd Ysgol y Gadeirlan, Llandaf a dechreuodd chwarae rygbi i'r ysgol.[5] Chwaraeodd rygbi iau i academi Rygbi Caerdydd ac fe'i enwyd yn Nhîm Ysgolion Caerdydd y Ddegawd yn 2020.[6] Yn 16 mlwydd oed, symudodd i Goleg Hartpury yn Sir Gaerloyw ac oddi yno i academi Rygbi Caerloyw.[7]

Gyrfa clwb golygu

Ar ôl dechrau ei yrfa ieuenctid gyda Gleision Caerdydd, symudodd i Goleg Hartpury ac oddi yno i academi Rygbi Caerloyw. Ymunodd â thîm hŷn Caerloyw yn nhymor 2019–20, gan ddod yn chwaraewr ieuengaf erioed y clwb i chwarae yn yr Uwch Gynghrair.[8] Sgoriodd ddau gais yn erbyn Caerwrangon yn ystod buddugoliaeth o 36–3 ym mis Rhagfyr 2019,[9] ac yn ddiweddarach yr un mis daeth ef y chwaraewr 18 oed cyntaf i sgorio hat-tric o geisiau[10] yn ystod gêm a gollwyd 33–26 i Northampton.[11]

Derbyniodd Wobr Chwaraewr y Mis yr Uwch Gynghrair ym mis Rhagfyr 2019.[12]

Ar 13 Ionawr 2020, arwyddodd Rees-Zammit ei gontract proffesiynol cyntaf gyda Chaerloyw, a dyrchafwyd felly i'r garfan hŷn o'r tymor 2020-21.[13]

Ar 16 Ionawr 2024, cyhoeddodd y byddai yn gadael y byd rygbi er mwyn rhoi cynnig ar chwarae Pêl-droed Americanaidd gyda'r NFL.[14] Ar 29 Mawrth 2024 arwyddodd gytundeb tair mlynedd gyda'r Kansas City Chiefs i chwarae fel running back/wide receiver.

Tîm cenedlaethol golygu

Cynrychiolodd Rees-Zammit Cymru ar lefel dan-18. Derbyniodd ei alwad gyntaf i garfan hŷn Cymru gan yr hyfforddwr Wayne Pivac ar 15 Ionawr 2020 ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2020.[15] Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru, o'r fainc, mewn gêm brawf yn erbyn Ffrainc a gynhaliwyd yn Stade de France ym Mharis, Ffrainc ym mis Hydref 2020.[16][17] Sgoriodd Rees-Zammit ei gais prawf cyntaf yn erbyn Georgia ar 21 Tachwedd 2020.[18]

Sgoriodd ei gais cyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2021, ar ei ymddangosiad cyntaf yn y Chwe Gwlad, yng ngêm Rownd 1 yn erbyn Iwerddon ar 7 Chwefror 2021.[19] Ar 13 Chwefror 2021, yng ngêm y Chwe Gwlad yn erbyn yr Alban, sgoriodd ddau gais, gan gynnwys y cais buddugol, ac fe’i enwyd yn seren y gêm.[20][21]

Bywyd personol golygu

Ymfudodd taid tadol Rees-Zammit i Lundain o Malta.[22][23][24]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Louis Rees-Zammit: Former Wales rugby union wing joins Kansas City Chiefs". BBC Sport (yn Saesneg). 2024-03-29. Cyrchwyd 2024-03-31.
  2. "The night Louis Rees-Zammit's career exploded and his perfect response when asked if he could play for England". Cyrchwyd 21 December 2019.
  3. "Louis Rees-Zammit Profile". Itsrugby.co.uk. Cyrchwyd 20 January 2020.
  4. Howell, Andy (August 16, 2020). "The Louis Rees-Zammit interview: I definitely want a Wales debut this autumn". WalesOnline. Cyrchwyd 13 February 2021.
  5. Thomas, Simon (16 Ionawr 2020). "The story of the little boy who grew up to be Welsh rugby's next big thing and the brother who has his back". Wales Online (yn Saesneg).
  6. "Another Day, Another Honour For Louis Rees-Zammit". 14 January 2020. Cyrchwyd 1 April 2024.
  7. "Who is Louis Rees_Zammit" (yn Saesneg). 2 Ebrill 2019. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2019.
  8. "LOUIS REES-ZAMMIT BECOMES GLOUCESTER RUGBY'S YOUNGEST PREMIERSHIP PLAYER". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-22. Cyrchwyd 22 December 2019.
  9. "Gloucester's teenage sensation Louis Rees-Zammit continues remarkable rise by inspiring win over Worcester". The Independent. Cyrchwyd 22 December 2019.
  10. "Louis Rees-Zammit set a new Premiership record in Gloucester Rugby loss at Northampton Saints". Cyrchwyd 31 December 2019.
  11. "Welsh teen sensation Louis Rees-Zammit set to force his way into Six Nations squad after stunning hat-trick of tries". Cyrchwyd 28 December 2019.
  12. "Louis Rees-Zammit named English rugby's player of the month and immediately donates prize to Welsh cancer centre". Wales online. Cyrchwyd 20 January 2020.
  13. "LOUIS REES-ZAMMIT EXTENDS HIS CONTRACT AT GLOUCESTER RUGBY". Gloucester Rugby. 13 January 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-16. Cyrchwyd 27 August 2020.
  14. "Louis Rees-Zammit i adael rygbi er mwyn symud i'r NFL". BBC Cymru Fyw. 2024-01-16. Cyrchwyd 2024-01-16.
  15. "Six Nations: Wales call up teenager Rees-Zammit and Saracens' Tompkins". BBC Sport. 15 January 2020. Cyrchwyd 15 January 2020.
  16. "France vs Wales: Alun Wyn Jones to equal Test record, Louis Rees-Zammit set for debut". Sky Sports. 22 October 2020. Cyrchwyd 24 October 2020.
  17. "France 38-21 Wales: Antoine Dupont inspires home side in Paris". BBC Sport. 24 October 2020. Cyrchwyd 24 October 2020.
  18. World, Rugby (November 21, 2020). "Louis Rees-Zammit gets his first Test try". Rugby World.
  19. "Rees-Zammit scores try on Six Nations debut as Wales hold off 14-man Ireland". February 7, 2021. Cyrchwyd 13 February 2021.
  20. "Preview: Scotland v Wales". Six Nations Rugby.
  21. Bath, Richard; Cosgrove, David (February 13, 2021). "Louis Rees-Zammit's stunning solo try sees Wales win thriller against 14-man Scotland". Cyrchwyd 13 February 2021.
  22. "Rees-Lightning! Wales' Rising Rugby Star Is A 19-Year-Old Kid With Maltese Blood". Lovin Malta. February 23, 2020. Cyrchwyd 13 February 2021.
  23. Thomas, Simon (January 16, 2020). "The family story of the boy who grew up to be Welsh rugby's next big thing". WalesOnline. Cyrchwyd 13 February 2021.
  24. "Teenage star Rees-Zammit named in Wales' Six Nations squad". Times of Malta. Cyrchwyd 13 February 2021.