Ysgol y Gadeirlan, Llandaf
ysgol breifat yn Llandaf
Ysgol breifat yn Llandaf, Caerdydd, yw Ysgol y Gadeirlan, Llandaf. Mae ganddi dros 800 o ddisgyblion. Fe'i sefydlwyd yn 1880 fel ysgol gôr ar gyfer Eglwys Gadeiriol Llandaf. Er ei bod wedi ymestyn y tu hwnt i'r pwrpas gwreiddiol hwnnw, mae'n parhau i ddarparu coryddion ar gyfer yr eglwys gadeiriol. Mewn gwirionedd, dyma'r unig ysgol gôr Anglicanaidd sydd wedi goroesi yng Nghymru. Mae bellach yn rhan o grŵp o Ysgolion Woodard, sy'n gymdeithas fawr o ysgolion Anglicanaidd ledled Cymru a Lloegr.
Math | ysgol breifat |
---|---|
Enwyd ar ôl | Eglwys Gadeiriol Llandaf |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Ysgol y Gadeirlan |
Sir | Llandaf |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 22.3 metr |
Cyfesurynnau | 51.4936°N 3.21603°W |
Cod post | CF5 2YH |
Crefydd/Enwad | yr Eglwys yng Nghymru |
Lleolwyd yr ysgol yn wreiddiol yn hen dŷ Esgob Llandaf. Dyma ran hynaf yr ysgol bresennol, ac mae'n adeilad rhestredig Gradd II*.[1]
Cyn-ddisgyblion o nôd
golygu- John Morgan (1886–1957), Archesgob Cymru
- Roald Dahl (1916–1990), awdur[2]
- Peter Temple-Morris (1938–2018), gwleidydd
- Charlotte Church (g. 1986), cantores[3]
-
Y prif adeilad, sy'n dyddio o'r 18g
-
Y capel
-
Y porthordy
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "The Cathedral School", British Listed Buildings; adalwyd 11 Ionawr 2021
- ↑ Tom Solomon (2016). Roald Dahl's Marvellous Medicine (yn Saesneg). Oxford University Press. t. 18. ISBN 978-1-78138-339-1.
- ↑ Abbie Wightwick (25 Tachwedd 2018). "Charlotte Church hopes to open her own secondary school by next September". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Ionawr 2021.