Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2020
Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2020 yw'r 21af yng nghyfres Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, sef prif gystadleuaeth rygbi'r undeb yn Hemisffer y Gogledd. Chwaraeir pymtheg gêm dros gyfnod o bum penwythnos rhwng 1 Chwefror a 14 Mawrth 2020. Caiff ei galw, hefyd, yn "Gystadleuaeth NatWest y Chwe Gwlad" oherwydd cyfraniad y noddwyr: Banc y National Westminster[1].
Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2020 | |||
---|---|---|---|
Dyddiad | 1 Chwefror – 14 Mawrth 2020 | ||
Gwledydd | |||
Ystadegau'r Bencampwriaeth | |||
Pencampwyr | (27fed tro) | ||
Gemau a chwaraewyd | 15 | ||
Gwefan swyddogol | sixnationsrugby.com | ||
|
Y chwe gwlad yw Iwerddon, Lloegr, Cymru, Ffrainc, Yr Alban a'r Eidal. Os cyfrifir cyn-gystadlaethau (y Cystadlaethau Cartref a Phencampwriaeth y Pum Gwlad) yna dyma'r 125ain cystadleuaeth.
Enillodd Lloegr y Pencampwriaeth ar 31 Hydref 2020, ar ôl i'r gemau oedd yn weddill gael eu gohirio o fis Mawrth oherwydd y pandemig COVID-19.
Y timau
golyguTabl
golyguSafle | Gwlad | Gemau | Pwyntiau | Ceisiadau | Pwyntiau bonws | Pwyntiau | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Chwaraewyd | Enillwyd | Cyfartal | Collwyd | Dros | Yn erbyn | Gwahan. | Dros | Yn erbyn | Camp Lawn | Ceisiadau | Collwr | |||
1 | Lloegr (P) | 5 | 4 | 0 | 1 | 121 | 77 | +44 | 14 | 9 | 0 | 1 | 1 | 18 |
2 | Ffrainc | 5 | 4 | 0 | 1 | 138 | 117 | +21 | 17 | 13 | 0 | 2 | 0 | 18 |
3 | Iwerddon | 5 | 3 | 0 | 2 | 132 | 102 | +30 | 17 | 11 | 0 | 2 | 0 | 14 |
4 | yr Alban | 5 | 3 | 0 | 2 | 77 | 59 | +18 | 7 | 5 | 0 | 0 | 2 | 14 |
5 | Cymru | 5 | 1 | 0 | 4 | 119 | 98 | +21 | 13 | 10 | 0 | 1 | 3 | 8 |
6 | yr Eidal | 5 | 0 | 0 | 5 | 44 | 178 | −134 | 6 | 24 | 0 | 0 | 0 | 0 |
(P) = Pencampwyr
(CL) = Enillwyr Camp Lawn
Rheolau
golygu- Pedwar pwynt gornest ar gyfer ennill gêm.
- Dau bwynt gornest i'r ddau dîm mewn gêm gyfartal.
- Pwynt bonws i dîm sy'n colli gêm o saith pwynt neu lai, a/neu yn sgorio pedwar gwaith neu fwy mewn gêm.
- Tri pwynt bonws i'r tîm sy'n ennill pob gêm (Camp Lawn).
- Os oes dau neu fwy tîm yn gyfartal ar bwyntiau gornest, yna bydd y tîm sydd a'r gwahaniaeth pwyntiau gwell (cyfanswm pwyntiau sgoriwyd namyn y pwyntiau a gollwyd) yn codi'n uwch yn y tabl.
- Os nad yw hyn yn gwahanu timau cyfartal, bydd y tîm a sgoriwyd y nifer uchaf o geisiadau yn codi'n uwch.
- Wedi hyn, os bydd dau neu fwy tîm yn gyfartal ar gyfer y lle cyntaf ar ddiwedd y Bencampwriaeth, yna bydd y teitl yn cael ei rannu rhyngddynt.
Canlyniadau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ NatWest 6 Nations Archifwyd 2018-01-25 yn y Peiriant Wayback adalwyd 6 Chwefror 2018
- ↑ Roedd Stadiwm y Mileniwm yn cael ei ddefnyddio fel Ysbyty Calon y Ddraig