Seiclwraig Gymreig ydy Louise Jones (ganwyd 8 Mehefin 1963[1], Port Talbot). Ymddeolodd o gystadlu yn 2000. Ers hynny mae'n gweithio fel Commissaire yr UCI. Cyn hynny roedd yn Commissaire Cenedlaethol (Prydain) ers 1994[2].

Louise Jones
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnLouise Jones
Dyddiad geni (1963-06-08) 8 Mehefin 1963 (60 oed)
Manylion timau
DisgyblaethTrac a Ffordd
RôlReidiwr a Commissaire
Tîm(au) Proffesiynol
1999-2000
GS Strada
Golygwyd ddiwethaf ar
22 Medi, 2007

Enillodd y Fedal aur cyntaf erioed ar gyfer seiclo merched yng Ngemau'r Gymanwlad, pan gyflwynwyd seiclo merched i'r Gemau am y tro cyntaf yn Auckland, Awstralia yn 1990[3]. Cynrychiolodd Prydain yng Ngemau Olympaidd 2002 yn Barcelona, Sbaen. Daeth yn bedwerydd yn Ras Ffordd Gemau'r Gymanwlad Kuala Lumpur, Maleisia, ym 1998. Reidiodd dros Brydain ym Mhencampwriaethau'r Byd Rasio Ffordd ym 1999.

Cymerodd Louise amser allan o gystadlu yn 1994 ac 1997 i gael plant â'i gŵr Phil, sy'n blymiwr ac yn seiclwr.

Canlyniadau golygu

1990
1af Sbrint, Gemau'r Gymanwlad
1998
2il Pencampwriaeth Cenedlaethol Rasio Ffordd Merched, Pydain
4ydd Ras Ffordd, Gemau'r Gymanwlad

Cyfeiriadau golygu

  1. Rhestr reidwyr Pencampwriaethau'r Byd Rasio Ffordd 1999 ar wefan British Cycling
  2. "Cyfweliad gyda Louise Jones, womenscycling.net 2005". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-06-04. Cyrchwyd 2007-09-22.
  3. "Newyddion ar wefan British Cycling, 2002". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-30. Cyrchwyd 2007-09-22.