Llenor a dramodydd Eidalaidd oedd Luigi Pirandello (Agrigento, 28 Mehefin 1867Roma, 10 Rhagfyr 1936), ac enillydd Gwobr Lenyddol Nobel ym 1934. Cyfieithwyd ei waith i nifer o ieithoedd y byd. Un o'i ddramâu enwocaf yw Sei personaggi in cerca d'autore, 1921. Mae cyfieithiad Cymraeg ar gael, sef Chwe Chymeriad yn chwilio am Awdur, cyfieithwyd gan Dyfnallt Morgan ac Eleri Morgan a cyhoeddwyd gan Lys yr Eisteddfod ym 1981.

Luigi Pirandello
Ganwyd28 Mehefin 1867 Edit this on Wikidata
Agrigento Edit this on Wikidata
Bu farw10 Rhagfyr 1936 Edit this on Wikidata
o niwmonia Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas yr Eidal Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Bonn Edit this on Wikidata
Galwedigaethdramodydd, ysgrifennwr, bardd, nofelydd, sgriptiwr, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amL'Esclusa, The Turn, Ma non è una cosa seria, One, No one and One Hundred Thousand, Six Characters in Search of an Author, Novels for a year, Il fu Mattia Pascal, Clothing The Naked, Henry IV Edit this on Wikidata
PriodMaria Antonietta Portulano Edit this on Wikidata
PlantFausto Pirandello, Stefano Pirandello Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Lenyddol Nobel Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.pirandelloweb.com/ Edit this on Wikidata
llofnod

Ganwyd Pirandello ym mhentre Kaos, maesdref i Agrigento, yn ne Sisili i deulu cyfforddus eu byd. Symudodd y teulu wedyn i Palermo lle cafodd addysg da. Aeth wedyn i astudio yn Rhufain ond roedd rhaid iddo fe adael cyn graddio. Aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Bonn yn yr Almaen. Darllenodd waith Heinrich Heine, a Goethe. Cyhoeddodd waith seiliedig ar waith Goethe, yr Elegie Boreali tra yno. Ym Mawrth 1891, enillodd ei Ddoethuriaeth.

Gwaith golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Eidalwr neu Eidales. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.