Eleri Morgan

actores

Mae Eleri Morgan yn actores a chomedïwraig Cymraeg a Saesneg ei hiaith. Magwyd hi yn ardal Aberystwyth ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd ar ôl cyfnod yn Llundain.[1]

Eleri Morgan
GanwydAberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, digrifwr stand-yp Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Magwyd Eleri yn ardal Aberystwyth gan fynychu Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig ac yna astudio yn yr Arts Education School yn Llundain. Yn ogystal ag actio a gwaith comedi mae'n athrawes ioga.

Bu Eleri'n actio mewn amryw o ddramâu llwyfan. Mae wedi actio rhannau 'Alice' yn Henry V yn theatr The Globe, Llundain; Masie yn Honest yn theatr Alma Vale, Bryste a throsleisio i BBC Wales ymysg rhannau eraill.[1]

Mae hefyd wedi ymddangos ar gyfresi drama teledu, gan gynnwys Y Gwyll a Decline and Fall.[2]

Comedi

golygu

Mae wedi perfformio yng Ngŵyl Ffrinj Abertawe 2017 fel rhan o sesiwn gomedi.[3] a Gŵyl Gomedi Caerlŷr gydag Esyllt Sears.[4] Bu'n perfformio set Gymraeg yng Ngŵyl Gomedi Aberystwyth yn 2018. Mae hi hefyd wedi perfformio yn sesiynau comedi Stand Up For Wales.

Mae'n un o gyflwynwyr cyfres pytiau a dramodig arlein BBC Wales, Sesh.[5]

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu