Luke Charteris
Chwaraewr Rygbi'r Undeb rhyngwladol o Gymru ydy Luke Charteris (ganed 9 Mawrth 1983). Mae chwarae yn yr ail reng dros glwb Dreigiau Casnewydd Gwent.
Luke Charteris | |
---|---|
Ganwyd | 9 Mawrth 1983 Camborne |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Taldra | 206 centimetr |
Pwysau | 125 cilogram |
Chwaraeon | |
Tîm/au | USA Perpignan, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Dreigiau, Y Scarlets, Racing 92, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru dan 20 oed |
Safle | Clo |
Yn 2008, cafodd Charteris ei alw i fyny'n hwyr ar gyfer taith De Affrica gan y hyfforddwr Warren Gatland, er mwyn cymryd lle Bradley Davies, clo'r Gleision, a oedd wedi anafu. Roedd Charteris ar wyliau yn San Francisco ar y pryd a bu'n raid iddo hedfan yn syth i Dde Affrica.
Ar sail ei berfformiadau dros y Dreigiau yng Nghyngrhair Magners, dewiswyd Charteris ar gyfer tim Cymru yn y gyfres o emau rhyngwladol yn Hydref 2008. Yn y gyfres hon, chwaraeodd yn erbyn Canada, roedd ar y fainc yn erbyn Crysau Duon Seland Newydd ac yn y fuddugoliaeth drost Awstralia.
Arwyddodd Charteris gytundeb tymor hir newydd gyda'r Dreigiau ar 11 Rhagfyr 2008, a fydd ei gadw yn Rodney Parade hyd 2012.
Mynychodd Charteris Ysgol Gyfun Tre-Gib.
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- (Saesneg) Proffil clwb Casnewydd Archifwyd 2008-12-11 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Proffil tîm Cymru[dolen farw]