Lynette Davies
Actores o Gymraes ar lwyfan, teledu a ffilm oedd Lynette Faenor Davies (18 Hydref 1948 – 1 Rhagfyr 1993).
Lynette Davies | |
---|---|
Ganwyd | 18 Hydref 1948 Tonypandy |
Bu farw | 1 Rhagfyr 1993 Cymru |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Davies yn Nhonypandy, Morgannwg, yn 1948, yn ferch i swyddog Tollau Tramor a Chartref. Cafodd ei addysg yn Our Lady's School yng Nghaerdydd. Aeth i astudio yn Academi Frenhinol y Celfyddydau Dramatig yn Llundain cyn ymuno gyda chwmni sefydlog yn yr Old Vic, Bryste.[1]
Yn 1974 ymddangosodd Regan mewn cynhyrchiad Royal Shakespeare Company o King Lear,[2][3] ac yn hwyrach yn yr un flwyddyn bu'n chwarae Yulia yng nghynhyrchiad cyntaf yr RSC yng ngwledydd Prydain o Summerfolk gan Maxim Gorky yn Theatr yr Aldwych.[4]
Ei rôl uchaf ei phroffil oedd fel Davinia Prince, y cymeriad canolog yn The Foundation, cyfres deledu Brydeinig gan ATV a ddarlledwyd yn 1977-1978, oedd yn dilyn stori gweddw i deicŵn busnes.[5][6]
Ym 1989 chwaraeodd ran Doll Tearsheet mewn cynhyrchiad English Shakespeare Company o King Henry IV, Rhan II.[7]
Yn Rhagfyr 1993, yn 55 mlwydd oed, boddwyd Davies ar Drwyn Larnog, ar arfordir Bro Morgannwg.[8] Yn ddiweddarach penderfynwyd ei bod wedi marw drwy hunanladdiad.
Ar adeg ei marwolaeth roedd Lynette Davies yn byw yn 31a Mortimer Road, Caerdydd, a gadawodd ystad oedd yn werth £251,073.[9]
Gwaith sgrîn
golygu- Clayhanger (1976) – Adela Orgreave
- The Ghosts of Motley Hall (1976) – Miss Uproar/Imogen
- Raffles (1977) – Lady Camilla Belsize
- Will Shakespeare (1978) – Countess of Southampton
- The Foundation (TV series) (1977-1978) – Davinia Prince
- Tales of the Unexpected, "The Last Bottle in the World" (1981) – Sophie Kassoulas
- Miracles Take Longer (1984) – Jenny Swanne
- Tales of the Unexpected, "The Best Chess Player in the World" (1984) – Paula Shaw
- No Place Like Home, "Dear Miss Davenport" (1986) – Celia Davenport
- Inside Story (1986) – Eileen Stead
- The District Nurse (1987) – Isobel Huxtable
- Bergerac, "Treasure Hunt" (1987) – Miranda Bassett
- The Watch House (1988) – Fiona
- The Christmas Stallion (1992) – Nerys
- Street Legal, "Children's Hour" (1992) – Dr Renata Berger
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Anthony Hayward, Obituary: Lynette Davies dyddiad 13 Rhagfyr 1993 o The Independent arlein yn independent.co.uk, cyrchwyd 15 Mai 2011
- ↑ King Lear at rscshakespeare.co.uk, cyrchwyd 15 Mai 2011
- ↑ Otis L. Guernsey, Al Hirschfeld, The Best Plays of 1974-1975 (1975), p. 109
- ↑ Guernsey & Hirschfeld (1975), p. 118
- ↑ Vincent Terrace, Encyclopedia of Television Series, Pilots and Specials: 1974-1984 (1985), p. 430
- ↑ The Listener, vols. 100-101 (1978), p. 278
- ↑ Barbara Hodgdon, Henry IV, part two (1993), p. 148
- ↑ Actress dies in The Independent on Sunday dyddiad 12 Rhagfyr 1993: "LYNETTE DAVIES, who starred as Davinia Prince in the 1970s TV series The Foundation, was found drowned at Lavernock Point, near Penarth, South Glamorgan."
- ↑ Search for Davies, Lynette Vaynor, 1994 at probatesearch.service.gov.uk, cyrchwyd 28 Awst 2015