Màrtainn Mac an t-Saoir
Mae Màrtainn Mac an t-Saoir (Martin MacIntyre); ganwyd 1965) yn un o brif feirdd Gaeleg yr Alban.
Màrtainn Mac an t-Saoir | |
---|---|
Ganwyd | 1965 Lenzie |
Dinasyddiaeth | Yr Alban |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd, cyfarwydd |
Magwyd yn siarad Gaeleg yn Lenzie, tref ar gyrion Glasgow, ei deulu yn wreiddiol o Dde Uist yn Ynysoedd Heledd.
Astudiodd feddygaeth ym Mhrifysgol Aberdeen, lle graddiodd yn 1988. Yn 1992 graddiodd o Sabhal Mòr Ostaig, y coleg Gaeleg ar Ynys Skye, ar ôl astudio Darlledu a Gaeleg. Yn yr un flwyddyn enillodd Wobr William Ross gyntaf am Ysgrifennu Gaeleg. Darlledwyd un o'i straeon byrion, Love Games/Pemau-Gaoil, yn 2000 ar BBC Radio nan Gaidheal. Yn 2003 enillodd MacIntyre Wobr Llyfr Cyntaf y Flwyddyn Cymdeithas Saltire am ei lyfr, Ath-Aithne.
Mae yn dilyn esiampl Sorley Maclean yn y 1940au o ddod â llenyddiaeth Aeleg i lwyfan y byd.
Dyfarnwyd bwrsariaeth i awduron gan Gyngor Celfyddydau'r Alban iddo er mwyn ysgrifennu'r dilyniant i Ath-Aithn. O’r enw Gymnippers Diciadain, cyrhaeddodd y nofel, sydd wedi’i gosod yng Nghaeredin, restr fer Llyfr y Flwyddyn Cymdeithas Saltire yn 2005.[1]
Teithiodd i Gatalunya a thrwy Gymru yn 2022, gan ysgrifennu cerddi Gaeleg ar ei sylwadau o’r bobl, tirwedd a defnydd helaeth o’r Catalaneg a'r Gymraeg wrth gymharu’r a Gaeleg. Mae’r rhai o’r cerddi bellach wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg gan Ifor ap Glyn a’r Catalaneg gan Helena Miguélez Carballeira.
Mae hefyd wedi ysgrifennu straeon byrion ac wedi perfformio ei waith ei hun a gwaith eraill. Mae'n byw yng Nghaeredin gyda'i wraig a dau o blant ac yn gweithio fel Meddyg.
Mae wedi mynd ati i ddysgu Cymraeg ac wedi gwneud cyflwyniad yn Gymraeg mewn noson farddoniaeth yng Nghaernarfon yn 2023.