Helena Miguélez Carballeira
Mae Helena Miguélez Carballeira (ganwyd 1978 yn Vigo) yn ieithydd, ysgolhaig ac awdur Galiseg. Mae hi'n gyfarwyddwraig y Ganolfan Astudiaethau Galisaidd, Prifysgol Bangor.
Helena Miguélez Carballeira | |
---|---|
Ganwyd | Helena Miguélez Carballeira 1978 Vigo |
Dinasyddiaeth | Sbaen |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ieithegydd, academydd |
Swydd | golygydd |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Postcolonial Spain: Coloniality, Violence and Independence |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Bywgraffiad
golyguAstudiodd Saesneg ac Ieitheg ym Mhrifysgol Vigo tan 2000.
Aeth i Brifysgol Gaeredin ble y cymerodd radd MA mewn Astudiaethau Cyfieithu, a PhD mewn Astudiaethau Sbaenaidd. Roedd yn ddarlithydd gysylltiol yn Adran Astudiaethau Sbaenaidd, Prifysgol Aberdeen (2004) ac ers 2005 mae hi'n uwch-ddarlithydd Astudiaethau Sbaenaidd yn yr Adran Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Bangor.
Hi yw cyfarwyddwraig y Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru. Penodwyd yn olygydd y cylchgrawn Galicia 21: Journal of Contemporary Galician Studies ac wedi cyhoeddi papurau yn y cylchgronau The Translator, Bulletin of Hispanic Studies, Translation Studies, Grial, Bulletin of Hispanic Studies, The Translator.
Mae ei llyfr 2014 Galiza, um povo sentimental? (Galicia, gwlad sentimental?) wedi cael cryn sylw gan wasg a chyfryngau Galisia ac wedi cyrraedd ail-argraffiad ar ôl dim ond flwyddyn.
Mae hi wedi dysgu Cymraeg ac wedi cyfrannu'n helaeth i faes astudiaethau cyfieithu. Ymhlith ei chyfieithiadau yw trosiad o gân Datblygu Cân i Gymru i'r iaith Galiseg a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Sermos Galiza[1]. Mae wedi ei hurddo'n wisg werdd gan Orsedd yr Eisteddfod[2].
Mae ei diddordeb ymchwil yn cynnws:
- Dulliau ffeministaidd ac ôl-drefedigaethol ar hanes diwylliannol Iberia.
- Cyfieithu mewn diwylliannau heb wladwriaeth
- Etifeddiaeth ddiwylliannol Francoiaeth yn Sbaen
- Ffyrdd o ddarllen Rosalía de Castro
Gwaith
golygu- Galicia, a Sentimental Nation: Gender, Culture, Politics (2013), Gwasg Prifysgol Cymru.
- Galiza, um povo sentimental?: Género, política e cultura no imaginário nacional galego, 2014. Cyfieithiad Galisieg o Galicia, a Sentimental Nation: Gender, Culture and Politics, 2013.
- A Companion to Galician Culture, 2014 (golygydd).
- Gydag Angharad Price a Judith Kaufmann, Translation in Wales: History, Theory, Approaches, Rhifyn arbennig o Translation Studies
Gwobrau
golygu- Gwobr AELG 2014, am Galiza, um povo sentimental?.
Cysylltiadau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Sermos Galiza - Diario de intereses galegos". www.sermosgaliza.gal. Cyrchwyd 2019-05-11.
- ↑ "Gorsedd y Beirdd: Y gogledd" (yn Saesneg). 2019-05-09. Cyrchwyd 2019-05-11.