MŠK Žilina

clwb pêl-droed o Slofacia

Clwb pêl-droed yn Slofacia yw MŠK Žilina (ynganiad Slofaceg: [ˈɛm ˈɛʃ ˈkaː ˈʒilina]) sydd wedi'i leoli yn nhref Žilina, sy'n chwarae yn y Superliga Slofacia. Ers sefydlu'r gynghrair ym 1993, mae'r clwb wedi ennill 7 teitl (cywir ar ddiwedd tymor 2019/20), a does ond un clwb wedi ennill mwy, felly maent yn un o'r timau mwyaf llwyddiannus yn y gystadleuaeth. Mae gan y clwb a'u cefnogwyr fel ei gilydd y llysenw Šošoni (ar ôl y Shoshone - llwyth brodorol yr Amerig) ac mae'n chwarae ei gemau cartref yn Štadión pod Dubňom. Yn nhymor 2016-17, enillodd Žilina yr Uwch Gynghrair.

MŠK Žilina
Enw llawnMŠK Žilina a.s.
LlysenwauŠošoni ("Y Shoshone")
Žlto-Zelení ("Y Melyn-Gwyrdd")
Sefydlwyd20 Mehefin 1908; 116 o flynyddoedd yn ôl (1908-06-20)
fel Zsolnai Testgyakorlók Köre
MaesŠtadión pod Dubňom
(sy'n dal: 11,258)
PerchennogJozef Antošík
CadeiryddJozef Antošík
RheolwrPavol Staňo
CynghrairFortuna Liga
2023–24Fortuna Liga, 3.
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Lliwiau Trydydd dewis

Blynyddoedd Cynnar

golygu

Sefydlwyd y clwb tua diwedd 1908 dan yr enw Hwngareg Zsolnai Testgyakorlók Köre, ac fe’i cofrestrwyd yn swyddogol ar 20 Mehefin 1909 - roedd Slofacia yn rhan o Hwngari ac Ymerodraeth Awstria-Hwngari ar y pryd. Enillodd y clwb ei bencampwriaeth Slofacia gyntaf (Zväzové majstrovstvá Slovenska) ym 1928 ac yna un arall ym 1929 ar adeg pan oedd Slofacia yn rhan o weriniaeth newydd Tsiecoslofacia a gydag elfen o ymreolaeth.

Cynghrair Tsiecoslofacia

golygu

Yn gyfan gwbl, chwaraeodd Žilina 30 allan o 47 tymor [1] yng Nghynghrair Gyntaf Tsiecoslofacia rhwng 1945 a 1993. Dim ond 12 clwb oedd wedi treulio mwy o amser yno.[2] Y tymor mwyaf llwyddiannus o hyd yw 1946-47 pan wnaethant gipio'r 4ydd safle.

Mae llawer yn ystyried bod 1961 yn garreg filltir yn hanes y clwb. Yn gyntaf, fe gyrhaeddodd y tîm rownd derfynol y Cwpan Cenedlaethol, lle gwnaethant golli i Dukla Prâg, pencampwr Tsiecoslofacia yn y pen draw. Er gwaethaf y golled, am y tro cyntaf yn ei hanes fe dorrodd y clwb, a elwid wedyn yn Dynamo Žilina, i mewn i Ewrop i gystadlu yng Nghwpan Enillwyr Cwpan UEFA. Cafwydd buddugoliaethau nodedig 3–2 ac 1–0 dros Olympiacos wrth gyrraedd rownd yr wyth olaf, ond cafodd tîm uchelgeisiol Slofacia ei fwrw allan yn y pen draw gan enillydd y flwyddyn flaenorol, Fiorentina. Er i Žilina fachu buddugoliaeth addawol 3–2 gartref, aeth Fiorentina drwodd drwy ennill yr ail gymal 2–0.

Enwau ar hyd yr Hanes

golygu
 
MŠK Žilina yn herio ŠK Slovan Bratislava, mis Mai 2009

Am resymau i wneud â newid grym a gwleidyddiaeth a nawdd, mae'r clwb wedi newid enw sawl gwaith yn ystod ei hanes:

  • 1908 – ZsTK (Zsolnai Testgyakorlók Köre) - cyfnod o dan hegemoni ddiwylliannol Hwngari
  • 1909 – ŽTK Žilina
  • 1919 – ŠK Žilina - sefydlu gweriniaeth newydd Tsiecoslofacia
  • 1948 – Sokol Slovena Žilina - rheolaeth gomiwnyddiol o Tsiecoslofacia wedi'r Ail Ryfel Byd
  • 1953 – Iskra Slovena Žilina
  • 1956 – DŠO Dynamo Žilina
  • 1963 – TJ Jednota Žilina
  • 1967 – TJ ZVL Žilina
  • 1990 – ŠK Žilina
  • 1995 – MŠK Žilina - diddymwyd Tsiecoslofacia yn 1993, cyfnod Slofacia annibynnol

Cyfnod newydd - Cynghrair Slofacia

golygu

Yn dilyn diddymu Tsiecoslofacia ym 1993, mae MŠK Žilina wedi bod yn chwarae yn Superliga Slofacia am gyfanswm o 23 tymor ac eithrio'r tymor 1995-96 ar ôl disgyn i'r Ail Adran.

Fe wnaethant chwarae yng Nghwpan UEFA 2008–09, gan gyrraedd y camau grŵp lle gwnaethant guro Aston Villa 2–1 ym Mharc Villa.

Yn 2015 cyrhaeddodd y clwb 4edd rownd ragarweiniol Cynghrair Europa UEFA wedi iddynt guro Athletic Bilbao 3–3 (3–2, 0–1).

Cefnogwyr

golygu
 
cefnogwyr Fanatici zilina mewn gêm yn Prâg, 2011

Gelwir cefnogwyr MŠK Žilina yn Žilinskí Šošoni (Shoshones Žilina), Brigâd y Gogledd ac Žilinskí Fanatici (Ffanatics Žilina). Mae cefnogwyr Žilina yn cynnal cysylltiadau cyfeillgar â chefnogwyr Pwylaidd, Góral Żywiec.[3]

Stadiwm

golygu

Štadión Pod Dubňom yw eu stadiwm cartref. Mae'n dal 11,181 o gefnogwyr.[4]

MŠK Žilina a Chlybiau Cymru

golygu

Ym mis Awst chwaraeodd MŠK Žilina ei gêm gyntaf yn erbyn tîm o Gymru sef Y Seintiau Newydd yng nghystadleuaeth Cynghrair Europa UEFA. Chwaraewyd y gêm ar 27 Awst yn Neuadd y Parc, maes y Seintiau Newydd yng Nghroesoswallt. Bu i MŠK Žilina golli i'r tîm Cymreig, 3-1 mewn amser ychwanegol.[5] Sgoriwyd goliau'r Seintiau gan Louis Robles, Leo Smith ac Adrian Cieslewicz gyda Patrik Myslovic yn sgorio dros MŠK Žilina.[6]

Anrhydeddau

golygu

Domestig

golygu

  Czechoslovakia

  Slofacia Annibynnol

  • Slovak Super Liga (1993–presennol)
    •   Enillwyr (7): 2001–02, 2009–10, 2011–12, 2016–17
    •   Ail (5): 2004–05, 2007–08, 2008–09, 2014–15, 2019–20
  • Cwpan Slofacia (1961–presennol)
    •   Enillwyr (2): 1961, 2011–12
    •   Ail (7): 1977, 1980, 1986, 1990, 2011, 2013, 2019
  • Pribina Cup (Super Cup Slofacia) (1993–presennol)
    •   Enillwyr (4): 2003, 2004, 2007, 2010

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Czechoslovakia 1945–1993, Malcolm Hodgson – Zbynek Pawlas, Rec.Sport.Soccer Statistics Foundation RSSSF
  2. Czechoslovakia – All-Time Table 1925-2003, Jiřν Slavνk, Rec.Sport.Soccer Statistics Foundation RSSSF
  3. "Futbaloví chuligáni: Kto do koho kope". Aktuality.sk.
  4. "MŠK Žilina". Soccerway. Perform. Cyrchwyd 26 June 2017.
  5. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/53940968
  6. https://twitter.com/sgorio/status/1299086772266295302
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.