Madog ap Gruffudd Maelor
Madog ap Gruffudd neu Madog ap Gruffudd Maelor neu Madog ap Gruffudd ap Madog (m. 1236) oedd tywysog y rhan ogleddol o Bowys, yng ngogledd-ddwyrain Cymru, a adwaenid fel Powys Fadog ar ei ôl. Teyrnasodd ar Bowys Fadog o 1191 hyd ei farwolaeth.
Madog ap Gruffudd Maelor | |
---|---|
Ganwyd | 1191 |
Bu farw | 1236 |
Galwedigaeth | teyrn |
Swydd | Powys Fadog |
Tad | Gruffudd Maelor I |
Mam | Angharad ferch Owain Gwynedd |
Plant | Madog Fychan, Gruffudd Maelor II, Maredudd ap Madog ap Hywel ap Gruffudd Maelor, Hywel ap Madog ap Gruffudd Maelor |
Hanes
golyguRoedd Madog yn fab i Gruffudd sef Gruffudd Maelor ap Madog, brenin olaf Powys unedig a mab Maredudd ap Bleddyn ap Cynfyn. Roedd hefyd yn gefnder i Lywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd. Ei frawd oedd Owain ap Madog.
Roedd Teyrnas Powys wedi ei rhannu ar farwolaeth taid Madog, Madog ap Maredudd yn 1160, a chafodd Gruffudd Maelor yn rhan ogleddol o'r hen deyrnas. Ar farwolaeth ei dad yn 1191 yn oedd Madog yn rhannu rheolaeth y deyrnas a'i frawd Owain, ond bu Owain farw yn 1197. Daeth Madog yn unig reolwr y deyrnas, a chafodd yr enw Powys Fadog ar ei ôl ef.
Ar y cyfan roedd Madog yn barod iawn i ochri gyda'i gefnder yn y brwydrau â'r Saeson, ond roedd mewn sefyllfa anodd gan fod ei deyrnas mor agos i'r ffin ac yn agored i ymosodiad o'r cyfeiriad hwnnw; y real politik hynny a barodd iddo ochri â'r brenin John o Loegr yn 1211-1214 pan droes ar Wynedd. Ond daeth ar delerau da â Llywelyn ar ôl hynny ac ymladdodd yn ei ochr ar sawl achlysur. Erbyn Rhagfyr 1215 roedd yn rhoi ei gefnogaeth i Lywelyn unwaith eto, gan yrru milwyr i gynorthwyo ymgyrch Llywelyn yn Ne Cymru. Bu'n deyrngar i Lywelyn o hynny hyd ei farwolaeth.
Chwalwyd Powys Fadog ar ôl ei farwolaeth, pan gafodd ei rannu'n arglwyddiaethau bychain rhwng ei bum mab.
Noddwr
golyguY bardd enwocaf a gysylltir â Madog yw Llywarch ap Llywelyn ('Prydydd y Moch').
Fel ei gefnder Llywelyn Fawr, roedd Madog yn gefnogol iawn i'r Sistersiaid. Sefydlodd Abaty Glynegwestl yn 1201 fel canolfan iddynt yn ei deyrnas, gan roi tiroedd yn Iâl a Glyndyfrdwy i'r abaty. Claddwyd ef yno pan fu farw yn 1236.
Meibion
golyguFfynonellau
golygu- R. R. Davies, The Age of Conquest: Wales 1053-1415 (Rhydychen, 1987)
- J. E. Lloyd, A History of Wales to the Edwardian Conquest (Longmans Green & Co., Llundain, 1911)