Madog ap Gruffudd Maelor

Tywysog Powys Fadog
(Ailgyfeiriad o Madog ap Gruffydd Maelor)

Madog ap Gruffudd neu Madog ap Gruffudd Maelor neu Madog ap Gruffudd ap Madog (m. 1236) oedd tywysog y rhan ogleddol o Bowys, yng ngogledd-ddwyrain Cymru, a adwaenid fel Powys Fadog ar ei ôl. Teyrnasodd ar Bowys Fadog o 1191 hyd ei farwolaeth.

Madog ap Gruffudd Maelor
Ganwyd1191 Edit this on Wikidata
Bu farw1236 Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
SwyddPowys Fadog Edit this on Wikidata
TadGruffudd Maelor I Edit this on Wikidata
MamAngharad ferch Owain Gwynedd Edit this on Wikidata
PlantMadog Fychan, Gruffudd Maelor II, Maredudd ap Madog ap Hywel ap Gruffudd Maelor, Hywel ap Madog ap Gruffudd Maelor Edit this on Wikidata
Arfbais Powys Fadog
Arfbais Powys Fadog

Roedd Madog yn fab i Gruffudd sef Gruffudd Maelor ap Madog, brenin olaf Powys unedig a mab Maredudd ap Bleddyn ap Cynfyn. Roedd hefyd yn gefnder i Lywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd. Ei frawd oedd Owain ap Madog.

Roedd Teyrnas Powys wedi ei rhannu ar farwolaeth taid Madog, Madog ap Maredudd yn 1160, a chafodd Gruffudd Maelor yn rhan ogleddol o'r hen deyrnas. Ar farwolaeth ei dad yn 1191 yn oedd Madog yn rhannu rheolaeth y deyrnas a'i frawd Owain, ond bu Owain farw yn 1197. Daeth Madog yn unig reolwr y deyrnas, a chafodd yr enw Powys Fadog ar ei ôl ef.

Ar y cyfan roedd Madog yn barod iawn i ochri gyda'i gefnder yn y brwydrau â'r Saeson, ond roedd mewn sefyllfa anodd gan fod ei deyrnas mor agos i'r ffin ac yn agored i ymosodiad o'r cyfeiriad hwnnw; y real politik hynny a barodd iddo ochri â'r brenin John o Loegr yn 1211-1214 pan droes ar Wynedd. Ond daeth ar delerau da â Llywelyn ar ôl hynny ac ymladdodd yn ei ochr ar sawl achlysur. Erbyn Rhagfyr 1215 roedd yn rhoi ei gefnogaeth i Lywelyn unwaith eto, gan yrru milwyr i gynorthwyo ymgyrch Llywelyn yn Ne Cymru. Bu'n deyrngar i Lywelyn o hynny hyd ei farwolaeth.

Chwalwyd Powys Fadog ar ôl ei farwolaeth, pan gafodd ei rannu'n arglwyddiaethau bychain rhwng ei bum mab.

Noddwr

golygu

Y bardd enwocaf a gysylltir â Madog yw Llywarch ap Llywelyn ('Prydydd y Moch').

Fel ei gefnder Llywelyn Fawr, roedd Madog yn gefnogol iawn i'r Sistersiaid. Sefydlodd Abaty Glynegwestl yn 1201 fel canolfan iddynt yn ei deyrnas, gan roi tiroedd yn Iâl a Glyndyfrdwy i'r abaty. Claddwyd ef yno pan fu farw yn 1236.

Meibion

golygu

Ffynonellau

golygu
  • R. R. Davies, The Age of Conquest: Wales 1053-1415 (Rhydychen, 1987)
  • J. E. Lloyd, A History of Wales to the Edwardian Conquest (Llundain: Longmans Green & Co., 1911)