Madryn (santes)
Santes o'r 5g oedd Madryn neu Madrun, Lladin: Materiana).
Madryn | |
---|---|
Ganwyd | 5 g, 440 Teyrnas Gwynedd |
Bu farw | Cernyw |
Man preswyl | Carn Fadryn, Trawsfynydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Dydd gŵyl | 9 Ebrill, 9 Mehefin |
Tad | Gwerthefyr |
Priod | Ynyr Gwent |
Plant | Iddon, Caradog Freichfras |
Teulu
golyguMadryn oedd un o ferched Gwerthefyr (Vortimer), mab Gwrtheyrn. Pan ffurfiodd ei thaid gynghrair gyda'r Sacsoniaid trowyd nifer o benaethiaid Celtaidd yn ei erbyn, gan gynnwys Gwrthefyr. Lladdwyd ei thad yn 457. Priododd Madryn ag Ynyr Gwent, pennaeth Gwent a chawsant fab, Ceidio. Bu Madryn gyda'i thaid pan gorfodwyd ef i ffoi i gaer ger yr Eifl, ger Cwm Nant Gwrtheyrn yn Llŷn.[1] . Llosgodd ei elynion y gaer yn 464. Bu farw Gwrtheyrn ond llwyddodd Madryn i ffoi i Garn Fadryn gyda'i phlentyn hynaf, Ceidio, yn ei breichiau. Cafodd Madryn ac Ynyr blant eraill: Iddon, Tegern a Teigiwg. Priododd wedyn â Gwgon o deulu Ceredig a chafodd fab, Cedwyn, ganddo.[2]
Cysylltir Madryn, felly, â Gwynedd, Gwent, cartref ei gŵr cyntaf, Ceredigion, cartref ei ail ŵr, a Chernyw.
Traddodiadau
golyguDwedir iddi teithio gyda'i morwyn (neu ei chwaer) Anhun hyd nes iddynt sefydlu cymuned Gristnogol ger Trawsfynydd, Meirionnydd. Dywedir iddynt, ar eu taith, orffwys mewn llecyn arbennig a syrthio i gysgu. Cawsant yr un breuddwyd: gorchymyn i godi cymuned yno, yn y fan a'r lle. Gwnaed hynny a saif Eglwys y Santes Fadryn ar y llecyn heddiw.[2] Mae adeilad presennol yr eglwys yn dyddio o'r 16g yn bennaf.[3]
Tua diwedd ei bywyd aeth i Minster yng Nghernyw ble sefydlodd gymuned Cristnogol arall. Mae eglwys a ffynnon ger Tintagel wedi cysegru iddi, hefyd. Bu farw ym Minster ger Boscastle, Cernyw.
Gwyliau:
- 9 Ebrill (gyda Cheidio, Minster; Materiana, Tintagel)
- 9 Mehefin (Trawsfynydd)
Llefydd sy'n dwyn enw'r santes
golyguRhestr Wicidata:
# | Eglwys neu Gymuned | Delwedd | Cyfesurynnau | Lleoliad | Wicidata |
---|---|---|---|---|---|
1 | Eglwys Santes Madrun | 50°40′59″N 4°40′34″W / 50.683°N 4.676°W | Pluw Ragdinas ha Talkarn | Q5470411 | |
2 | Eglwys Santes Madrun | 50°39′47″N 4°45′35″W / 50.663°N 4.7597°W | Trevena | Q7808487 | |
3 | Eglwys y Santes Fadryn, Trawsfynydd | 52°54′10″N 3°55′28″W / 52.902705°N 3.92438°W | Trawsfynydd | Q29484435 |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Spencer, R. 1991, Saints of Wales and the West Country, Llanerch
- ↑ 2.0 2.1 The Book of Welsh Saints, tud. 344.
- ↑ Esgobaeth Bangor[dolen farw]
Dolenni allanol
golygu- Eglwys y Santes Fadryn[dolen farw] ar wefan Esgobaeth Bangor