Ynyr Gwent

teyrn (430-480)

Brenin Gwent oedd Ynyr Gwent (bl. 5g), yn ôl traddodiad. Roedd yn dad i nifer o blant yn cynnwys yr arwr Iddon.

Ynyr Gwent
Ganwyd430 Edit this on Wikidata
Bu farw480 Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
Swyddbrenin Edit this on Wikidata
PriodMadryn, Derwela Edit this on Wikidata
PlantIddon ap Ynir, Teigiwg ach Ynyr, Caradog Freichfras Edit this on Wikidata

Cymreigiad o'r enw personol Lladin Honorius yw 'Ynyr'. Awgryma Rachel Bromwich ddylanwad enw'r ymerawdwr Rhufeinig Honorius (384-423) ar yr enw 'Ynyr Gwent'.[1] Nid dyma'r unig enghraifft o'r cyfnod ôl-Rufeinig o gael enw teyrnas fel epithet: cymharer Maelgwn Gwynedd ac Emyr Llydaw.

Ym Muchedd Beuno, dywedir fod Ynyr yn un o ddisgyblion Sant Beuno ac iddo roi tir i'r sant yn Ewias. Cyfeiria'r bardd Gwalchmai ap Meilyr (12g) at Went fel "gwlad Ynyr".[2]

Gwraig Ynyr oedd Madryn, ferch Gwrthefyr fab Gwrtheyrn (a gofir fel nawdd santes Trawsfynydd). Mae plant Ynyr yn cynnwys:[2]

  • Caradog (cyfeiriad yn Vita Tatheus)
  • Digwg (merch, dywedir i Sant Beuno ei hatgyfodi ar ôl iddi gael ei lladd yn Arfon)
  • Iddon (ei fab gan Fadryn; cyfeirir ato mewn un o'r Trioedd)

Cyfeiriadau

golygu
  1. Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain, gol. Rachel Bromwich (Caerdydd, 1978, arg. newydd 1991), t.412
  2. 2.0 2.1 Trioedd Ynys Prydein, t.412