Love Jones-Parry
Roedd Syr Thomas Duncombe Love Jones-Parry (5 Ionawr 1832 – 18 Rhagfyr 1891) yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros etholaeth Caernarfon ac yn un o sefydlwyr y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.
Love Jones-Parry | |
---|---|
Ganwyd | 5 Ionawr 1832 Nefyn |
Bu farw | 18 Rhagfyr 1891 |
Dinasyddiaeth | Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Love Jones Parry ym 1832 yn fab i Syr Love Parry Jones-Parry a'i ail wraig Elizabeth Caldescott merch Thomas Caldescott, Holton Lodge, Swydd Lincoln. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Rugby a Choleg y Brifysgol, Rhydychen gan raddio ym 1850.[1]
Priododd Mrs Charlotte Bell Elliot, gweddw Fredrick A Elliot yn Llundain ym 1886, ni chawsant blant.[2]
Ei yrfa gyhoeddus
golyguEtifeddodd Love Jones-Parry stâd Madryn, gerllaw Nefyn ar ôl ei dad, Syr Love Parry Jones-Parry. Bu’n Uchel Siryf Sir Gaernarfon yn 1854. Roedd yn amlwg mewn cylchoedd eisteddfodol, lle’r adwaenid ef dan ei enw barddol "Elphin".
Daeth i amlygrwydd gwleidyddol pan enillodd sedd Sir Gaernarfon yn etholiad 1868, gan guro’r ymgeisydd Torïaidd, George Sholto Gordon Douglas-Pennant (yn ddiweddarach Barwn Penrhyn). Collodd y sedd hon yn yr etholiad nesaf, ond enillodd sedd Bwrdeistrefi Caernarfon yn 1882, a daliodd y sedd hyd 1886. Fe’i gwnaed yn Farwnig gan Gladstone am ei wasanaethau i’r Rhyddfrydwyr.
Y Wladfa
golyguYn niwedd 1862 aeth Capten Love Jones-Parry gyda Lewis Jones i Batagonia i weld a oedd yn addas ar gyfer ymfudwyr Cymreig. Ariannwyd hyn yn bennaf gan Jones-Parry, a dalodd o leiaf £750 o'i boced ei hun. Cyraeddasant mewn llong fechan o’r enw "Candelaria", a gyrrwyd hwy gan storm i fae a enwyd ganddynt yn "Borth Madryn" ar ôl cartref Jones-Parry. Heddiw gelwir y dref a dyfodd gerllaw’r man y glaniodd y ddau yn Puerto Madryn. Yn dilyn adroddiad ffafriol gan Jones-Parry a Lewis Jones, hwyliodd mintai o 162 o Gymry yn y Mimosa yn 1865. Yn ddiweddarach bu beirniadu fod yr adroddiad wedi rhoi darlun camarweiniol o’r ardal; beirniadaeth ar Lewis Jones yn bennaf yn hytrach na Love Jones-Parry.
Marwolaeth
golyguBu farw Syr Love Jones-Parry yn ei gartref Plas Madryn, Pwllheli ar 18 Rhagfyr 1891 yn 59 mlwydd oed [3] a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Llanbedrog.[4]
Llyfryddiaeth
golygu- Trebor Evans Teulu Madryn (Pwllheli: Clwb y Bont, 1993)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Nicholas, Thomas; Annals and antiquities of the counties and county families of Wales T354 [1] adalwyd 14 Mawrth 2015
- ↑ Llangollen Advertiser 19 Tachwedd 1886 Marriage of Sir Love Jones-parry Bart [2] adalwyd 14 Mawrth 2015
- ↑ Cymro (Lerpwl A'r Wyddgrug), 24 Rhagfyr 1891 Marwolaeth Syr Love Jones Parry, Barwnig [3] adalwyd 14 Mawrth 2015
- ↑ North Wales Express 1 Ionawr 1892 Funeral of Sir Love Jones Parry [4] adalwyd 14 Mawrth 2015
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: George Douglas-Pennant |
Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon 1868 – 1874 |
Olynydd: George Douglas-Pennant |
Rhagflaenydd: William Bulkeley Hughes |
Aelod Seneddol dros Fwrdeistrefi Caernarfon 1882 – 1886 |
Olynydd: Edmund Swetenham |