Maen Gwynedd
Maen hir ar y ffin rhwng Powys a Gwynedd yw Maen Gwynedd. Saif ychydig islaw Bwlch Maen Gwynedd ar lethrau mynyddoedd Y Berwyn. Cyfeirnod OS: SJ 081337 (Landranger 125). Cafodd yr enw am ei fod yn dynodi'r ffin rhwng teyrnasoedd Gwynedd a Phowys yn yr Oesoedd Canol.[1] Ceir ambell gyfeiriad ato yng ngwaith y beirdd Cymraeg canoloesol.
Math | maen hir |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.855271°N 3.301763°W |
Disgrifiad
golyguSaif y maen hir hwn ger pen Bwlch Maen Gwynedd ar ochr Powys i'r bwlch, i'r de o gopa Cadair Bronwen, yng nghymuned Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Mae'n garreg 2 metr hir, main iawn, sy'n gogwyddo ar ongl o 60 gradd i gyfeiriad y dwyrain. Dyma'r garreg yr enwir y bwlch ar ei hôl; nodai'r ffin rhwng y ddwy deyrnas ganoloesol ond gallai fod yn llawer hŷn ac yn dyddio o'r oesoedd cynhanesyddol, er nad oes sicrwydd o hynny.[1]
Lleolir Maen Gwynedd ar lwybr cynhanesyddol a adnabyddir fel 'Ffordd Gamelin'. Rhedai'r llwybr masnach hwnnw rhwng gorllewin Meirionnydd a gogledd Powys, rhan o rwydwaith o "ffyrdd" cynhanesyddol a gysylltai arfordir gogledd-orllewin Cymru a de Lloegr.[2]