Maes Awyr Y Trallwng

Lleolir Maes Awyr y Trallwng 2 filltir i'r de o dref y Trallwng, ym Mhowys, Cymru.

Maes Awyr y Trallwng
IATA: dimICAO: EGCW
Crynodeb
Perchennog Linda Jones
Rheolwr Mid Wales Airport Ltd.
Gwasanaethu Y Ganolbarth,Sir Amwythig
Lleoliad Y Trallwng, Powys
Adeiladwyd 1990
Uchder 223 tr / 71 m
Gwefan [1]
Lleiniau glanio
Cyfeiriad Hyd Arwyneb
tr m
04/22 1,023 3,346 Tarmac

Mae ganddo trwyddeb CAA (Rhif P865) sy'n caniatáu hedfan i gludo teithwyr cyhoeddus neu hyfforddiant hedfan, fel yr awdurdodir gan y dalwr trwyddeb, Mid Wales Airport Ltd.. Mae'r maes awyr hefyd yn drwyddedig am ddefnydd gyda'r nos. Mae ganddo tŵr rheoli sy'n cynnig gwasanaeth cynghorol awyr/tir yn ystod y dydd.

Mae nifer o ysgolion hedfan gyda sail yn y maes awyr, gan gynnwys ysgol hedfan hofrennydd.

Hanes golygu

Sefydlwyd y maes awyr ym 1990 gan ffermwr lleol, Bob Jones. Roedd e eisoes wedi gwneud llain laswellt ar ei dir ffermio yn Nhrehelig ym 1987. Fe'i uwchraddiwyd i redfa tarmac llawn ym 1990, pan ddatganodd y Bwrdd Datblygu Dros Gymru Wledig ei ddiddordeb mewn creu maes awyr yn y Ganolbarth er mwyn cefnogi busnesau lleol. [1]

Estynwyd y rhedfa eto yn 2004 gan 190 metr ar ei phen de-orllewinol, er mwyn gallu derbyn awyrennau busnes mwy.[2]

Bu farw Mr Jones yn 2012 mewn damwain hedfan gyda pheilot arall pan aeth eu hawyren mewn cwmwl a tharo coed ar ben allt gerllaw y maes awyr.[3] Cymerodd ei angladd lle yn y dref, gyda gorymdaith ar hyd y rhedfa, a hofrenydd yr ambiwlans awyr yn hedfan dros yr eglwys fel arwydd o barch. [4]

Ambiwlans Awyr golygu

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn defnyddio Maes Awyr y Trallwng fel un o'i bedair canolfan ar draws y wlad.[5] Mae'n gweithredu un hofrennydd Airbus H145 yn y Trallwng, gyda chofrestriad G-WOBR, ac arwydd galw "Helimed 59".

Er bod Ambiwlans Awyr Cymru yn gweithredu trwy'r nos gydag un hofrenydd yng Nghaerdydd, oherwydd rhesymau gweithredol, mae G-WOBR dim ond yn gallu hedfan yn ystod oriau golau dydd.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. "History". Mid Wales Airport. Cyrchwyd 17 Awst 2023.
  2. "Fears about airport expansion" (yn Saesneg). 2003-12-02. Cyrchwyd 2023-08-17.
  3. "Piper PA-31-325 Navajo C/R, G-BWHF, 18 January 2012". Air Accidents Investigations Branch. 10 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 17 Awst 2023.
  4. "Public tributes for airport founder Bob Jones in Welshpool". BBC News (yn Saesneg). 2012-02-09. Cyrchwyd 2023-08-17.
  5. "Ein Canolfannau Awyr". Awyr Ambiwlans Cymru. Cyrchwyd 17 Awst 2023.
  6. "The New 24/7 Wales Air Ambulance". Ambiwlans Awyr Cymru. Cyrchwyd 17 Awst 2023.