Brwydr Maes Cogwy
(Ailgyfeiriad o Maes Cogwy)
Ymladdwyd Brwydr Maes Cogwy (neu Brwydr Cogwy, Saesneg: Battle of Maserfield) ar 5 Awst 641 neu 642, neu yn ôl yr Annales Cambriae yn 644, rhwng Oswallt, brenin Northumbria a Penda, brenin Mersia. Yn ôl pennill yng Nghanu Heledd, roedd Cynddylan ap Cyndrwyn o Bengwern hefyd yn rhan o'r ymladd. Er na ddywedir hynny, mae'n debygol ei fod mewn cynghrair gyda Penda, gan fod llinell ym Marwnad Cynddylan sy'n awgrymu hynny.
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 5 Awst 642 |
Lleoliad | Croesoswallt |
Gorchfygwyd byddin Northumbria, a lladdwyd Oswallt. Y farn gyffredinol yw fod y frwydr rywle gerllaw Croesoswallt.
Llyfryddiaeth
golygu- Peter C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2993)