Oswallt
Brenin Northumbria oedd Oswallt (604 - 5 Awst 642?).
Oswallt | |
---|---|
Ganwyd | c. 604 Deifr |
Bu farw | 5 Awst 642 Croesoswallt |
Dinasyddiaeth | Northumbria |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Swydd | brenin Northumbria, brenin Brynaich, brenin Deifr |
Dydd gŵyl | 5 Awst |
Tad | Æthelfrith o Northumbria |
Mam | Acha of Deira |
Priod | unknown daughter of Cynegils of Wessex |
Plant | Œthelwald of Deira |
Fe'i lladdwyd ym Mrwydr Maes Cogwy (Saesneg: Battle of Maserfield) ar 5 Awst 641 neu 642, neu yn ôl yr Annales Cambriae yn 644, yn erbyn Penda, brenin Mersia. Yn ôl pennill yng Nghanu Heledd, roedd Cynddylan ap Cyndrwyn o Bengwern hefyd yn rhan o'r ymladd. Er na ddywedir hynny, mae'n debygol ei fod mewn cynghrair a Penda, gan fod llinell ym Marwnad Cynddylan sy'n awgrymu hyn.
Gorchfygwyd byddin Northumbria, a lladdwyd Oswallt. Y farn gyffredinol yw fod y frwydr rywle gerllaw Croesoswallt.
Llyfryddiaeth
golygu- Peter C. Bartrum (1993) A Welsh classical dictionary (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) ISBN 0-907158-73-0