Maes glo Gogledd-ddwyrain Cymru

Mae Maes Glo Gogledd-ddwyrain Cymru yn ardal yng ngogledd Cymru a arferai gael ei chloddio'n helaeth ar gyfer glo. Mae'n cynnwys maes glo Sir Fflint tua'r gogledd a maes glo Sir Ddinbych i'r de.

Y gofeb i Drychineb Gresffordd

Ymestynna o waith glo'r Parlwr Du yn y gogledd, drwy ardal Wrecsam a draw i Groesoswallt yn Swydd Amwythig i gyfeiriad y de. Nid oedd ardal llawer llai ar Ynys Môn, lle'r oedd glo yn arfer cael ei gloddio, yn cael ei gyfrif yn rhan o faes glo'r gogledd-ddwyrain, er ei fod wedi ei leoli yn ardal gogledd Cymru yn ddaearyddol.

Hanes cynnar golygu

Mae modd olrhain cloddio am lo yng ngogledd Cymru gannoedd o flynyddoedd yn ôl. Pan feddiannwyd tiriogaeth yr ardal gan y Saeson yn ystod y 1300au allforiwyd glo ganddynt o ogledd Cymru i Loegr,[1] ac yn 1536, disgrifiodd yr awdur teithio, John Leland, bod glo yn cael ei gloddio yn Minera, sef pentref ger Coedpoeth. Erbyn 1593, roedd glo yn cael ei allforio o’r porthladdoedd ar aber afon Dyfrdwy. Datblygodd masnach yn gyflym ac erbyn 1616, roedd y prif weithfeydd glo wedi cael eu sefydlu ym Mostyn, Bagillt, Englefield, Leadbrook, Uphfytton a Wepre.[2]

Cynnydd a chwymp y diwydiant golygu

Parhaodd cloddio am lo i ddatblygu ac ehangu yng ngogledd Cymru yn ystod y 18g. Gyda dyfodiad y rheilffordd yn y 19eg ganrif datblygodd cloddio am lo yn gyflym yn yr ardal.[3] Yn 1913 roedd cynhyrchiant y maes glo yng ngogledd Cymru wedi cyrraedd 3.5 miliwn o dunelli, cyn iddo wedyn ddirywio’n raddol.[4]

Yn 1918 roedd 60 o byllau glo ar draws maes glo gogledd Cymru, gyda phob un yn cyflogi rhwng 200 a 1000 o ddynion. O ganlyniad, roedd y diwydiant glo yn rhan allweddol o’r economi leol. Er hynny, yn yr un modd â de Cymru, dechreuodd y galw am lo Cymru ddirywio, ac roedd yn gynyddol anodd cystadlu yn erbyn mewnforion glo rhatach o wledydd eraill.

Yn ystod Streic y Glowyr yn y 1970au a’r 1980au, aeth llawer o lowyr yn ne Cymru a rhannau eraill o Loegr ar streic mewn ymdrech i geisio achub y diwydiant glo. Er hynny, penderfynodd y mwyafrif o’r glowyr yng ngogledd Cymru beidio mynd ar streic a pharhau i weithio, er gwaethaf erledigaeth a chamdriniaeth gan bicedwyr.[5]

Caewyd y gwaith glo olaf ym maes glo gogledd Cymru, sef y Parlwr Du, ym Mostyn, yn 1996.

Trychineb Glofa Gresffordd golygu

Dros y blynyddoedd bu nifer o ddamweiniau angheuol ym Maes glo Gogledd-ddwyrain Cymru. Yn 1934 lladdwyd 266 o weithwyr yn Nhrychineb Glofa Gresffordd oherwydd ffrwydrad anferthol yn y pwll glo. Hwn oedd un o’r damweiniau gwaethaf yn hanes cloddio glo ym Mhrydain.[6][7]

Cyfeiriadau golygu

  1. "'Forgotten' north Wales coal pits remembered". BBC News (yn Saesneg). 2011-08-03. Cyrchwyd 2020-09-17.
  2. "nwalescf". web.archive.org. 2016-03-04. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2020-09-17.
  3. contact-us@wrexham.gov.uk, Wrexham County Borough Council, Guildhall, Wrexham LL11 1AY, UK. "An Explosive Combination: Coal Mining in North Wales - WCBC". old.wrexham.gov.uk (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-26. Cyrchwyd 2020-09-17.
  4. "The North Wales Coalfield". nwmat (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-17.[dolen marw]
  5. Leeworthy, Daryl (2012-10-01). "The secret life of us: 1984, the miners' strike and the place of biography in writing history ‘from below’". European Review of History: Revue européenne d'histoire 19 (5): 825–846. doi:10.1080/13507486.2012.719009. ISSN 1350-7486. https://doi.org/10.1080/13507486.2012.719009.
  6. "Gresford". www.welshcoalmines.co.uk. Cyrchwyd 2020-09-17.
  7. "Diwydiant yng Nghymru | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-09-17.

Gweler hefyd golygu