Archesgob Eglwys Uniongred Cyprus ac Arlywydd Cyprus oedd Makarios III (Groeg (iaith): Μακάριος Γ; 13 Awst 19133 Awst 1977).

Makarios III
GanwydΜιχαήλ Χριστοδούλου Μούσκος Edit this on Wikidata
13 Awst 1913 Edit this on Wikidata
Pano Panagia Edit this on Wikidata
Bu farw3 Awst 1977 Edit this on Wikidata
South Nicosia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCyprus Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Genedlaethol a Kapodistrian Athen
  • Prifysgol Boston
  • Pancyprian Gymnasium Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, clerig, diacon Edit this on Wikidata
SwyddArzobispo de Nova Justiniana y Todo Chipre, esgob, Arlywydd Cyprus, Arlywydd Cyprus, Arlywydd Cyprus Edit this on Wikidata
Gwobr/auOrder of the Nile, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen Edit this on Wikidata
llofnod
Makarios III
Arlywydd Gweriniaeth Cyprus
Yn ei swydd
16 Awst 1960 – 15 Gorffennaf 1974
Vice PresidentDr. Fazıl Küçük
Rhagflaenwyd ganswydd newydd
Dilynwyd ganNikos Sampson (o ganlyniad i coup d'état yn erbyn Makarios - 15–23 Gorffennaf 1974)
Yn ei swydd
7 Rhagfyr 1974 – 3 Awst 1977
Rhagflaenwyd ganGlafcos Clerides (arlywydd dros dro yn ôl cyfansoddiad Cyprus, 23 Gorffennaf – 7 Rhagfyr 1974)
Dilynwyd ganSpyros Kyprianou

Ganwyd Mikhail Khristodolou Mouskos (Groeg (iaith): Μιχαήλ Χριστοδούλου Μούσκος) i deulu o ffermwyr Cypriaidd Groegaidd yn Panagia, ger dinas Paphos yn ne-orllewin Cyprus. Ar ôl iddo ddod yn Archesgob Cyprus ym 1950, cymerodd rôl flaenllaw wrth gefnogi enosis, sef undeb rhwng Cyprus a Gwlad Groeg. Roedd Cyprus dan reolaeth Prydain ar y pryd, oedd yn dymuno rhoi annibyniaeth i'r ynys. Roedd gwrthwynebiad i'r syniad hwn gan gefnogwyr enosis, yn bennaf y mudiad terfysgol EOKA. Cyhuddwyd Makarios o fod yn aelod o EOKA, a chafodd ei alltudio i'r Seychelles gan Brydain ar 9 Mawrth 1956. Wedi i EOKA gynnig cadoediad â Phrydain, rhoddwyd caniatâd i Makarios adael, ond nid i ddychwelyd i Gyprus. Gadawodd Mahé ar 6 Ebrill 1957, gan deithio i Madagasgar ac yna i Athen ar long a ddarparwyd gan Aristoteles Onassis a llywodraeth Groeg.[1]

Dychwelodd i Gyprus, gan gadw ei wrthwynebiad i annibyniaeth yn ddawel, ac ym 1960 daeth yn arlywydd y weriniaeth newydd. Ymdrechodd ar y cychwyn i gadw cydbwysedd rhwng cymunedau Groegaidd a Thwrcaidd yr ynys, ond ym 1963 cynigodd Makarios newidiadau i'r cyfansoddiad i ddiddymu'r drefn o rannu grym rhwng y cymunedau Groegaidd a Thwrcaidd. O ganlyniad bu trais rhwng cymunedau'r ynys, ac ym 1964 daeth heddgeidwaid y Cenhedloedd Unedig i Gyprus.[2] Yn ogystal â dieithrio'r Cypriaid Twrcaidd, llwyddodd Makarios i ddigio llywodraeth Gwlad Groeg a nifer o Gypriaid Groegaidd gan droi ei gefn ar enosis a chydnabod manteision annibyniaeth yr ynys. O safbwynt Makarios, bydd Twrci yn ymyrryd i atal enosis; yn ôl y Cytundeb Gwarantu rhwng Cyprus, Groeg, Prydain a Thwrci, nid oedd Cyprus i uno ag unrhyw wlad arall, ac roedd hawl gan wledydd eraill y cytundeb i atal hynny rhag digwydd.[3]

Ni lwyddodd Makarios i berswadio Cypriaid Groegaidd o'r angen i roi enosis i un ochr. Ar 15 Gorffennaf 1974 cafodd ei ddymchwel mewn coup d'état gan EOKA B a gefnogwyd gan Warchodlu Cenedlaethol Cyprus a'r jwnta filwrol yng Ngwlad Groeg. Wnaeth Makarios ffoi i'r Deyrnas Unedig.[4] Pwrpas y coup oedd i uno Cyprus â Groeg, ond daeth rhagwelediad Makarios o ymyrraeth Dwrcaidd yn wir. Goresgynnwyd yr ynys gan Dwrci, gan rannu'r wlad a sefydlu Gweriniaeth Dwrcaidd Gogledd Cyprus. Daeth Lywydd Tŷ'r Cynrychiolwyr, Glafcos Clerides, yn Arlywydd Cyprus nes i Makarios ddychwelyd yn Rhagfyr 1974.[2] Gwasanaethodd Makarios fel arlywydd hyd ei farwolaeth o drawiad ar y galon yn Nicosia ym 1977.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Cavendish, Richard (Mawrth 2006). Archbishop Makarios Deported from Cyprus. HistoryToday. Adalwyd ar 31 Awst 2012.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Cyprus profile. BBC (26 Mehefin 2012). Adalwyd ar 31 Awst 2012.
  3. (Saesneg) Turkey's Invasion of Greek Cyprus. GlobalSecurity.org. Adalwyd ar 1 Awst 2012.
  4. William Mallinson, Cyprus: A Modern History (Llundain, 2008), t.80

Dolenni allanol

golygu